Neidio i'r prif gynnwy

PROMISE

Beth yw PROMISE?

  • Lleihau Pwysau drwy Fonitro Parhaus yn y Lleoliad Cymunedol
  • Mae llawer o bobl sydd â lefelau uchel o eiddilwch a chyflyrau iechyd sy’n bodoli eisoes yn datblygu briwiau pwyso a gall y rhain fod yn anodd eu rheoli mewn lleoliadau cymunedol heb fynediad at gefnogaeth arbenigol.
  • Mae prosiect PROMISE yn cyflwyno'r defnydd o synwyryddion matres a chadeiriau yng nghartrefi cleifion, sy'n mesur ac yn cofnodi pwysau arwyneb corff y claf yn barhaus
  • Mae'r cadeiriau a'r matresi wedi’u cysylltu â chyfrifiadur sy'n dangos y pwysau rhyngwyneb mewn amser real ac yn dangos yn weledol ardaloedd y corff o dan bwysau parhaus
  • Mae hyn yn helpu'r claf neu'r gofalwr i ddeall yn well yr ystumiau sy'n debygol o leihau'r risg o friwiau pwyso.

Cefnogwyd y prosiect hwn gan y Sefydliad Iechyd. Mae mwy o wybodaeth ar gael ar wefan PROMISE.

Rôl Cedar

Cydweithiodd CEDAR gydag Ymddiriedolaeth Sefydliad Partneriaeth Cernyw ar PROMISE fel partner gwerthuso annibynnol. Defnyddiodd y gwerthusiad ddulliau cymysg (dulliau meintiol ac ansoddol) i edrych ar effaith PROMISE ar gleifion a staff, pa mor rhwydd y cafodd ei fabwysiadu, a'r addasiadau oedd eu hangen.