Neidio i'r prif gynnwy

 

Croeso i Ganolfan Ymchwil Technoleg Iechyd Cedar

Mae Cedar yn ganolfan ymchwil technoleg gofal iechyd sy'n rhan o'r GIG (Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro) a Phrifysgol Caerdydd. Mae Cedar yn canolbwyntio ar dystiolaeth, ymchwil a gwerthuso sy'n cynnwys dyfeisiau meddygol, diagnosteg a gweithdrefnau ymyrraeth yn bennaf. Rydym hefyd yn gweithio ar brosiectau gwella gwasanaethau ac ailgynllunio.

Mae ein harbenigedd ym meysydd:

  • Adolygiadau tystiolaeth
  • Rheoli treialon clinigol
  • Gwerthuso
  • Economeg iechyd
  • Dadansoddiad ac ystadegau
  • Dulliau ymchwil ansoddol
  • Mesurau canlyniad a adroddir gan gleifion

Rydym yn gweithio gyda'r GIG, sefydliadau academaidd, y sector masnachol, sefydliadau a ariennir yn gyhoeddus, ac elusennau.