Neidio i'r prif gynnwy

Ein gwaith

Fel canolfan ymchwil technoleg gofal iechyd, mae Cedar yn canolbwyntio ar ymchwil a gwerthuso sy'n cynnwys dyfeisiau meddygol a diagnosteg. Mae sgiliau eang tîm Cedar yn golygu ein bod hefyd yn ymgymryd â phrosiectau mewn meysydd eraill. Rydym wedi gweithio gyda'r GIG, sefydliadau academaidd, y sector masnachol, sefydliadau a ariennir yn gyhoeddus, ac elusennau.

Mae ein prosiectau'n rhychwantu arbenigeddau clinigol gan gynnwys llawfeddygaeth, anaestheteg, iachâd clwyfau, cardiofasgwlaidd, gynaecoleg, wroleg, diagnosteg pwynt gofal.

Mae ein meysydd arbenigedd yn cynnwys:

  • Adolygiadau systematig
  • Rheoli treialon clinigol
  • Economeg iechyd
  • Ymchwil ansoddol
  • Canlyniadau a adroddwyd gan gleifion
  • Ystadegau a dadansoddi data
  • Gwerthuso
  • Rheoliadau dyfeisiau meddygol