Neidio i'r prif gynnwy

Gweithiwch gyda ni

Mae Cedar yn ganolfan ymchwil academaidd y GIG ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro ac mae gennym gysylltiadau agos â Phrifysgol Caerdydd. Mae ein tîm o ymchwilwyr cyfeillgar a phrofiadol yn arbenigo yn y meysydd canlynol:

  • Rheoli treialon clinigol
  • Economeg iechyd
  • Ymchwil ansoddol a PROMs (Mesurau Canlyniad a Adroddir gan Gleifion)
  • Adolygiadau systematig
  • Gwerthusiad o wasanaethau

Rydym yn cydweithio â staff y GIG, academyddion, y diwydiant meddygol a’r trydydd sector.

Os oes angen cymorth arnoch yn unrhyw un o'r meysydd hyn, cwblhewch y Ffurflen Gais Cymorth canlynol a’i dychwelyd i Cedar trwy uhw.cedar@wales.nhs.uk. Cysylltwch â ni ar y cyfle cyntaf posib i drafod eich syniadau.

 

Ffurflen gais am gymorth yma