Neidio i'r prif gynnwy

Gwerthusiad

Mae CEDAR yn gwerthuso rhaglenni, ymyriadau, modelau cyflenwi gwasanaethau, a phrosiectau tebyg. Fel arfer rydyn ni'n gweithio mewn partneriaeth â gwasanaethau - nid yn unig o fewn y GIG ond hefyd gyda llywodraeth leol a/neu sefydliadau trydydd sector - yn aml yn gweithredu o fewn systemau cymhleth.

Beth yw gwerthusiad?

Rydym wedi canfod bod y term "gwerthusiad" yn cael ei ddehongli mewn ffyrdd gwahanol. Yn CEDAR, mae gwerthusiad yn cyfeirio at brosiectau lle rydym yn archwilio:

  • Sut a/neu pam y mae ymyrraeth yn cyflawni ei ganlyniadau
  • Ffactorau cyd-destunol gall dylanwadu ar brosesau neu ganlyniadau
  • Pwy sy’n cael ei effeithio gan (neu sy’n cyfrannu tuag at) newidiadau sy’n digwydd
  • Canlyniadau annisgwyl yr ymyrraeth – boed yn uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, cadarnhaol neu negyddol

Methodoleg werthuso

Mae prosiectau gwerthuso CEDAR fel arfer yn cynnwys dulliau cymysg – integreiddio casgliad data meintiol ac ansoddol, dadansoddi, a dehongli. Mae triongli data o ystod o ffynonellau yn dilysu canfyddiadau ac yn rhoi mewnwelediad o wahanol safbwyntiau.

Rydym yn ymgysylltu â staff cyflenwi rheng flaen a rheolwyr yn ogystal â defnyddwyr gwasanaethau a rhanddeiliaid allweddol eraill. Rydym yn archwilio canlyniadau mesuriadau rhifiadol a dadansoddiadau ystadegol ochr yn ochr â themâu a nodwyd trwy gyfweliadau, grwpiau ffocws ac arolygon. Weithiau mae prosiectau'n cynnwys gwerthusiad economaidd neu arwydd o gynaliadwyedd gwasanaeth, er enghraifft drwy amcangyfrif yr elw cymdeithasol ar fuddsoddiad (SROI).

Arbenigedd CEDAR

Mae gan CEDAR arbenigedd a phrofiad yn y canlynol:

  • Datblygiad iteraidd a mireinio modelau rhesymeg i ddangos damcaniaeth newid ac i brofi rhagdybiaethau
  • Creu fframweithiau gwerthuso a nodi meini prawf mesuro i arwain casgliad o ddata perthnasol
  • Gwerthuso gwasanaethau mentrau gwella ansawdd lleol
  • Gwerthuso ffurfiannol ac adborth o gylchoedd CGAG (Cynllunio, Gwneud, Astudio, Gweithredu)
  • Gwerthuso graddfa a lledaeniad mentrau llwyddiannus i gyd-destunau eraill (daearyddol, sefydliadol, neu ddiwylliannol)
  • Adnabod rhwystrau a hwyluswyr – ffactorau y credir eu bod yn helpu neu’n rhwystro
  • Gwerthusiad broses o ymyriadau cymhleth – gan ganolbwyntio ar weithrediad (megis cywirdeb cyflenwi), mecanweithiau (casgliadau achosol) a chyd-destun. Gall gwerthusiadau proses bod yn ychwanegiad defnyddiol i hap-dreialon dan reolaeth.
  • Gwerthuso effaith – er enghraifft defnyddio olrhain prosesau a dadansoddiad o gyfraniad i amcangyfrif y tebygolrwydd y gall effaith gael ei achosi gan ffactor penodol (neu gyfuniad o ffactorau)
  • Defnyddio damcaniaeth canol-lefel a mesurau wedi'u dilysu megis Normalisation Process Theory (holiadur NoMAD); the RE-AIM framework (Reach, Effectiveness, Adoption, Implementation and Maintenance) neu fodelau eraill o newid ymddygiad.
Bwyd Doeth yn ystod Beichiogrwydd
Gwerthusiad Adferiad COVID Hir
Clinic Syndrome Heb Enw (SWAN)
Ein hiechyd, ein Gwybodaeth (OHOK)
Model Adsefydlu Caerdydd a'r Fro: Byw'n Dda a Pharatoi'n Dda (Orthopedeg)
Partneriaeth Gwerthuso Podiatreg
PROMISE
Consultant Connect