Neidio i'r prif gynnwy

Model Adsefydlu Caerdydd a'r Fro: Byw'n Dda a Pharatoi'n Dda (Orthopedeg)

Cefndir

Datblygwyd Model Adsefydlu Caerdydd a'r Fro a sefydlwyd yn ddiweddar er mwyn cefnogi pobl i gael mynediad at wasanaethau adsefydlu’n agosach at gartref sy'n eu cefnogi i adfer a gwneud dewisiadau da i fyw'n dda. Mae'r model yn dilyn dull sy'n cael ei arwain gan therapi, ac mae'n cynnwys pum gwasanaeth gwahanol: Covid Hir, Byw'n Dda, Paratoi'n Dda (Canser), Paratoi'n Dda (Orthopedeg), a'r Coleg Adfer a Lles. Comisiynwyd CEDAR i werthuso dau o'r gwasanaethau hyn: Paratoi’n Dda (Orthopedeg), a Byw’n Dda. Yn y gorffennol, mae CEDAR wedi gweithio ar werthusiad o'r rhaglen Long Covid.

Mae Paratoi’n Dda (Orthopedeg) yn darparu cefnogaeth i gleifion sydd ar lwybr llawfeddygol orthopedig, trwy raglen grŵp 6 wythnos sy’n canolbwyntio ar weithgaredd corfforol ac addysg. Ei nod yw galluogi pobl i fod mor iachus yn gorfforol â phosib, a hynny cyn ac yn syth ar ôl cael llawdriniaeth orthopedig.

Mae Byw’n Dda yn darparu dwy set o gefnogaeth grŵp i bobl sydd ag osteoarthritis clun a phen-glin neu boen cefn isel. Mae'r rhaglen yn cynnwys ESCAPE-Pain (cwrs 6 wythnos sy’n seiliedig ar ymarfer corff) a Foodwise (cwrs 8 wythnos sy'n cynnwys cyngor dietegol gydag elfen egnïol).

Rôl CEDAR

Mae CEDAR yn gwerthuso effeithiolrwydd dwy raglen yn y Model Adsefydlu: Byw'n Dda a Pharatoi'n Dda (Orthopedeg). Bydd hyn yn cynnwys cyfweliadau cleifion a staff ar eu profiadau o bob gwasanaeth, yn ogystal â dadansoddiad economaidd o werth pob gwasanaeth.

Adroddiadau Ffeithlun

Rydym wedi llunio adroddiad ffeithlun sy’n amlinellu canfyddiadau’r gwerthusiad ar gyfer y ddwy raglen yn y Gymraeg:

CEDAR ESCAPE-Pain infographic

CEDAR PWO Infographic