Neidio i'r prif gynnwy

Gwerthusiad Adferiad COVID Hir

Ym Mehefin 2021, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol lansiad y rhaglen Adferiad (https://gov.wales/adferiad-recovery-long-covid-programme-html), a rhoddodd £5 miliwn i’r saith Bwrdd Iechyd lleol ar gyfer cyflwyno cyfres newydd o lwybrau cleifion ynghyd â gwasanaethau adsefydlu sylfaenol a chymunedol newydd/ehangedig i gefnogi pobl â COVID Hir.

Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu adolygu'r rhaglen bob 6 mis er mwyn monitro ac asesu effeithiolrwydd y gwasanaethau newydd sy'n cael eu darparu. Mae CEDAR a’r Canolfan Gwerth mewn Iechyd Cymru (WViHC) wedi cynorthwyo’r byrddau iechyd lleol i ymateb i ofyn y llywodraeth trwy hyrwyddo casglu data trwy holiadur a thrwy ddarparu dadansoddiad data, adroddiadau a chrynodebau ar lefel genedlaethol. Mae’r data a gasglwyd yn cynnwys Mesurau Canlyniadau a Phrofiadau a Adroddir gan Gleifion (PROMs a PREMs). Mae nifer o Fyrddau Iechyd Lleol hefyd wedi comisiynu CEDAR i wneud gwaith ychwanegol ar ffurf astudiaethau achos cleifion, ac adroddiadau â ffocws gan gynnwys dadansoddiad o elw cymdeithasol ar fuddsoddiad.

  • Rhyddhawyd adroddiad gwerthuso cenedlaethol rhagarweiniol gan CEDAR ar y 14eg o Ionawr 2022
  • Defnyddiwyd yr adroddiad hwn gan Lywodraeth Cymru yn eu hadolygiad o'r gwasanaethau COVID hir ac fe'i soniwyd amdano yn eu cyfathrebu ar y we
  • Rhyddhawyd ail adroddiad gwerthuso cenedlaethol ar y 30ain o Ebrill 2022
  • Rhyddhawyd trydydd datganiad o’r adroddiad gwerthuso cenedlaethol ar y 23ain o Fedi 2022
  • Rhyddhawyd pedwerydd datganiad o’r adroddiad gwerthuso cenedlaethol ar y 14eg o Fawrth 2023