Neidio i'r prif gynnwy

Clinic Syndrome Heb Enw (SWAN)

Cefndir

Mae clefydau prin yn broblem iechyd sylweddol sy'n aml yn gysylltiedig â chanlyniadau gwael. Mae clefyd prin yn un sy’n effeithio 1:2000 neu lai o gleifion, ac mae’n effeithio ar tua 150,000 o bobl yng Nghymru. Mae clefydau prin yn cael cryn effaith ar gleifion a'u teuluoedd ac yn cyflwyno ystod o heriau, gan gynnwys yr amser mae'n ei gymryd i gael diagnosis cywir, gyda chleifion yn aros 5 mlynedd ar gyfartaledd am eu diagnosis.

Yn ddiweddar, comisiynodd Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru (WHSCC) beilot o Glinig Syndrom Heb Enw (SWAN) yng Nghymru. Nod y gwasanaeth yw gwella gofal i gleifion sydd â chlefydau prin drwy roi diagnosis i gleifion sydd hyd yn hyn ddim wedi gallu derbyn un.

Rôl CEDAR

Mae gwerthusiad o beilot Clinig SWAN yn cael ei gynnal gan CEDAR fel rhan o'u rôl yng Nghanolfan Gwerth mewn Iechyd Cymru (WViHC). Nod y gwerthusiad yw asesu effeithiolrwydd clinigol a gwerth Clinig SWAN o ran profiad a chanlyniadau cleifion. Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy arolygon cleifion (gan gynnwys Mesurau Canlyniadau a Adroddir gan Gleifion (PROMs) a Mesurau Profiad a Adroddir gan Gleifion (PREMs), a chyfweliadau â chleifion, aelodau eu teulu a'u gofalwyr, a staff.