Neidio i'r prif gynnwy

Cyfieithu a Dilysu PROMs i'r Gymraeg

Mae Cedar yn gweithio gyda Chanolfan Gwerth mewn Iechyd Cymru i gyfieithu a dilysu holiaduron iechyd o’r enw PROMs (Mesurau Canlyniadau a Adroddir gan Gleifion). Mae PROMs yn setiau o gwestiynau a gwblhawyd gan gleifion, sy'n ein helpu i ddeall eu symptomau ac ansawdd bywyd ac fe’u defnyddir gan y GIG i asesu a gwella’r driniaeth a’r gofal y mae’n ei ddarparu.

Fel rhan o’r broses cyfieithu, rhaid i'r cyfieithiad Cymraeg gael ei brofi gyda siaradwyr Cymraeg i sicrhau ei fod yn hawdd i’w ddeall a'i fod yn cyfateb i ystyr y fersiwn Saesneg gwreiddiol. Ar gyfer pob PROM, rhaid i ni gael adborth gan 5-10 siaradwr Cymraeg sydd â chyflyrau iechyd penodol.

Ar hyn o bryd, mae Cedar yn chwilio am siaradwyr Cymraeg gyda chyflyrau iechyd amrywiol i'n helpu gyda’r gwaith hwn. Os ydych chi’n siarad Cymraeg a hoffech gymryd rhan neu ddarganfod mwy am y gwaith hwn, darllenwch ein taflen wybodaeth a chwblhewch ein ffurflen fer ar-lein: https://forms.office.com/e/NfgdB9FbkD.

I gwblhau’r ffurflen yn Gymraeg, dewiswch yr opsiwn Cymraeg yn y gwymplen ar frig y dudalen.