Neidio i'r prif gynnwy

Selective Internal Radiation Therapy (SIRT)

Cefndir

Mae Comisiynu trwy Werthuso (CTE) yn fenter GIG Lloegr sy'n galluogi triniaethau newydd gydag ychydig o dystiolaeth i gael eu comisiynu mewn nifer fach o ganolfannau gyda gwerthusiad wedi'i gynllunio.

Mae radiotherapi mewnol dethol (SIRT) yn defnyddio microsfferau yttrium-90 ymbelydrol a ddosberthir trwy ficrocathetr i'r rhydweli hepatig, i dargedu tiwmorau yn yr afu/iau. Dewiswyd deg safle yn Lloegr gan GIG Lloegr i gynnal SIRT fel rhan o CTE. Roedd y rhaglen yn canolbwyntio ar SIRT fel triniaeth trydedd linell ar gyfer metastasisau’r afu a chanser dwythell y bustl mewn-hepatig. Fel rhan o'r trefniant CTE, cyflwynodd pob canolfan ddata i gofrestrfa genedlaethol.

Rôl CEDAR

Wnaeth CEDAR rheoli’r prosiect hwn, gan gynnwys rheoli data, dadansoddi ac ysgrifennu adroddiad. Casglodd a dadansoddodd CEDAR ddata ar ba mor dda y mae SIRT yn gweithio fel triniaeth trydedd linell ar gyfer metastasisau’r afu. Cynhaliwyd adolygiad systematig llawn o'r dystiolaeth glinigol ac economaidd. Cynhaliodd CEDAR hefyd werthusiad cost-effeithiolrwydd o SIRT o'i gymharu â gofal safonol.

Cyhoeddiadau

Mae ein hadroddiad gwerthuso terfynol bellach wedi’i gyhoeddi gan GIG Lloegr yma:

White J., Dale M., Morgan H., Sewell B., Carolan-Rees G. Commissioning through Evaluation: Selective internal radiation therapy (SIRT). NICE Commissioned report for NHS England 2017. Availble at: https://www.england.nhs.uk/publication/independent-evaluation-of-the-selective-internal-radiation-therapy-commissioning-through-evaluation-scheme/