Neidio i'r prif gynnwy

Consultant Connect

Mae Consultant Connect (CC) yn ap cyfathrebu clyfar a arferai ganiatáu i feddygon teulu gael mynediad uniongyrchol at gydweithwyr gofal eilaidd, gan osgoi defnyddio switsfyrddau ysbytai neu wasanaethau blîp. Comisiynwyd CC ar draws GIG Cymru gan Lywodraeth Cymru (LlC) mewn ymateb i bandemig COVID-19 a chaniatawyd i fyrddau iechyd ei gyflwyno ar eu cyflymder eu hunain. Er mwyn asesu effaith gwasanaeth Consultant Connect, cysylltodd LlC â CEDAR i gynnal gwerthusiad annibynnol o’r rhaglen. Prif nodau’r gwerthusiad oedd deall effaith CC ar ddarparu gwasanaethau, a nodi pwyntiau dysgu at ddibenion datblygu/caffael yn y dyfodol gan ddefnyddio dulliau cymysg gan gynnwys adborth rhanddeiliaid, prosesu data a modelu economaidd.

Mae'r dadansoddiad economaidd iechyd yn dangos bod arbedion cost posibl o atgyfeiriadau a derbyniadau sy'n cael eu hosgoi. Yn gyffredinol, ystyriwyd bod gan y system botensial sylweddol i wella cyfathrebu, profiad a chanlyniadau, ond gyda chydnabyddiaeth ar draws staff gofal sylfaenol ac eilaidd nad yw’r potensial hwn wedi’i wireddu eto. Nodwyd nifer o welliannau posibl sy'n fanwl ac a allai wella defnyddioldeb a'r cwmpas ar gyfer gwerthuso.