Neidio i'r prif gynnwy

Dyfais monitro cortisol

Mae ymchwilwyr yn Ysgol Feddygol Bryste ar hyn o bryd yn datblygu dyfais monitro cortisol parhaus sy'n mesur lefelau cortisol mewn amser real. Mae'r system yn cynnwys:

chwiliedydd microdialysis bach sy'n cael ei osod o dan y croen

tiwb tenau sy'n cysylltu'r chwiliedydd â'r uned synhwyrydd

uned synhwyrydd symudol yn y llaw sy'n casglu'r samplau ac yn synhwyro lefelau cortisol

tabled arddangos amser real wedi'i gysylltu trwy Bluetooth

Gall claf wisgo'r uned am hyd at 48 awr ac mae darlleniadau ar gael ar ôl i’r ddyfais sefydlogi am 20 munud cychwynnol. Mae'r dechneg microdialysis yn golygu nad oes angen unrhyw samplau gwaed, gan osgoi colli gwaed yn ogystal â'r amser ac adnoddau ar gyfer cymryd profion gwaed. Gall y claf barhau â gweithgareddau arferol yn ystod y broses fonitro.

Edrychodd CEDAR ar sut mae clinigwyr mewn gwahanol ardaloedd yn gweld potensial y ddyfais hon a'r newidiadau i lwybrau'r GIG yr oedd yn gysylltiedig â nhw, a'r goblygiadau economaidd iechyd dilynol.