Adolygydd Systematig
Adolygydd Systematig
Mae Simone yn Adolygydd Systematig ar gyfer yr Uned Arbenigol ar gyfer Tystiolaeth Adolygu (SURE) ac mae ganddi PhD mewn Seicoleg (Prifysgol Metropolitan Caerdydd). Canolbwyntiodd PhD Simone ar straen galwedigaethol a lles artistiaid perfformio. Ymunodd Simone â SURE yn 2018 ac mae ganddi brofiad ym mhob agwedd ar y broses adolygu gan gynnwys datblygu protocol a chwilio, arfarnu beirniadol, echdynnu data, a synthesis tystiolaeth. Mae Simone wedi gweithio ar adolygiadau tystiolaeth ar gyfer NICE, NIHR, Llywodraeth Cymru, What Works Centre for Children’s Social Care, a Centre for Homelessness Impact. Mae Simone hefyd yn ymwneud ag addysgu dulliau adolygu systematig ar gyfer cwrs Adolygiad Systematig SURE. Yn ei rôl gyda CEDAR, mae Simone yn darparu arbenigedd adolygu systematig ar gyfer Asesiadau o Dechnolegau Iechyd a phrosiectau synthesis tystiolaeth.