Neidio i'r prif gynnwy
Rhys Morris

Cyfarwyddwr CEDAR

Amdanaf i

Cyfarwyddwr CEDAR

Mae gan Rhys BSc (Anrh) mewn Ffiseg gyda Ffiseg Feddygol (Coleg Caerdydd Prifysgol Cymru) a doethuriaeth (Coleg Meddygaeth Prifysgol Cymru). Mae'n Wyddonydd Clinigol (CS06718), Peiriannydd Siartredig a Ffisegydd Siartredig, ac mae wedi bod yn rhan o Adran Ffiseg Feddygol a Pheirianneg Glinigol, Ysbyty Athrofaol Cymru, ers 1996. Rhys yw arweinydd Ymchwil a Datblygu'r Bwrdd Clinigol Diagnosteg Glinigol a Therapiwteg yn BIP Caerdydd a'r Fro, a Chyfarwyddwr Ffiseg Feddygol a Pheirianneg Glinigol, a Phrif Olygydd y cyfnodolyn, Journal of Medical Engineering and Technology. Mae Rhys yn arbenigwr mewn therapïau cywasgu ac atal thrombosis gwythiennau dwfn ac mae wedi gweithio gyda phartneriaid diwydiannol dros flynyddoedd lawer i ddatblygu ac asesu dyfeisiau meddygol. Mae ei faes clinigol o ddiddordeb mewn uwchsain fasgwlaidd o ffistwla rhydweli-wythiennol ar gyfer hemodialysis.