Dirprwy Gyfarwyddwr CEDAR/ Arweinydd Gofal Iechyd sy'n Seiliedig ar Werth
Dirprwy Gyfarwyddwr CEDAR/ Arweinydd Gofal Iechyd sy'n Seiliedig ar Werth
Mae gan Kathleen BSc (Anrh) mewn Rheolaeth Amgylcheddol (Prifysgol Greenwich), MSc mewn Tocsicoleg Feddygol (Coleg Meddygaeth Prifysgol Cymru) a PgCert Economeg Iechyd (Aberdeen) ac mae hi’n Gydymaith Ymchwil anrhydeddus ym Mhrifysgol Caerdydd (Grŵp Ymchwil Peirianneg Fiofeddygol). Gweithiodd Kathleen ym myd diwydiant cyn symud i’r GIG, lle bu’n gweithio fel arbenigwr mewn Gwybodaeth Gwenwynau yn y Gwasanaeth Gwybodaeth Cenedlaethol am Wenwynau (Caerdydd) cyn symud i CEDAR.
Yn CEDAR, mae Kathleen yn arwain y Tîm Gofal Iechyd syn Seiliedig ar Werth, gan gefnogi rhaglen Canolfan Gwerth mewn Iechyd Cymru. Mae hyn yn cynnwys cyflwyno ymchwil, gwerthusiadau a phrosiectau dadansoddol i gefnogi penderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth yn ogystal â hwyluso dewis PROMs a gweithredu PROMs ledled Cymru. Mae Kathleen yn brofiadol iawn mewn ymchwil ansoddol a datblygu a defnyddio Mesurau Canlyniadau a Adroddir gan Gleifion (PROMs) a Mesurau Profiad a Adroddir gan Gleifion (PREMs). Mae ganddi ddiddordeb mewn cynnwys pobl a chyd-gynhyrchu, ac mae'n aelod o fwrdd Rhwydwaith Cyd-gynhyrchu Cymru.