Neidio i'r prif gynnwy
Hawys Waddington

Cydlynydd y Gymraeg

Amdanaf i

Cydlynydd y Gymraeg

Mae gan Hawys BA mewn Ffrangeg ac Almaeneg o Brifysgol Southampton. Mae hi wedi gweithio’n flaenorol fel Rheolwraig Prosiect Cyfieithu, lle bu’n gweithio gyda chyfieithiadau meddygol-fferyllol, gan gynnwys cyfieithu gohebiaeth pwyllgor moeseg ymchwil a dogfennaeth treialon clinigol. Gweithiodd hefyd fel Is-deitlydd, lle bu’n darparu is-deitlau i bobl fyddar a thrwm eu clyw, yn ogystal ag isdeitlau Saesneg ar gyfer rhaglenni teledu Cymraeg fel y newyddion a digwyddiadau chwaraeon Cymraeg byw.

Hawys yw Cydlynydd y Gymraeg CEDAR, gan sicrhau bod yr holl allbynnau angenrheidiol yn ddwyieithog. Mae hi'n gweithio'n agos â'r Rhaglen Genedlaethol Gwerth mewn Iechyd Cymru drwy ddarparu cyfieithiadau Cymraeg o Fesurau Canlyniadau a Adroddir gan Gleifion (PROMs) a Mesurau Profiad a Adroddir gan Gleifion (PREMs). Mae'r gwaith hwn yn cynnwys cynnal cyfweliadau ansoddol gyda chleifion, clinigwyr a/neu aelodau o'r cyhoedd er mwyn sicrhau bod yr holl gyfieithiadau Cymraeg yn glir ac yn ddealladwy i'r cyhoedd.