Cymrawd Ymchwil
Cymrawd Ymchwil
Mae gan Sue BSc (Anrh) mewn Ffiseg (Prifysgol Keele), MSc mewn Cyfrifiadureg (Prifysgol Swydd Stafford), MSc mewn Peirianneg Glinigol a Ffiseg Feddygol (Prifysgol Sheffield) a PhD mewn Mesur Ffisiolegol (Prifysgol Caerlŷr). Hyfforddodd Sue fel Ffisegydd Meddygol a chofrestrwyd hi fel Gwyddonydd Clinigol wrth weithio fel gwerthuswr i CEDAR yn flaenorol. Yna treuliodd bedair blynedd fel Cydymaith Ymchwil yn cynnal ymchwil ansoddol i ddylunio a mabwysiadu technolegau meddygol yn Ysgol Feddygol Prifysgol Caerdydd cyn trosglwyddo i'r Ysgol Beirianneg a dychwelyd i weithio yn CEDAR. Mae gwaith Sue yn canolbwyntio ar reoli treialon clinigol, rheoliadau dyfeisiau meddygol, a modelu economaidd, ac mae'n arwain gwaith addysgu CEDAR ar y radd israddedig mewn Peirianneg Feddygol.