Neidio i'r prif gynnwy
Dr. Meg Kiseleva

Adolygydd Systematig

Amdanaf i

Adolygydd Systematig

Mae prif rôl Meg o fewn yr Uned Arbenigol ar gyfer Tystiolaeth Adolygu (SURE) ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae hi'n arbenigo mewn adolygiadau systematig, adolygiadau cyflym, a mathau eraill o synthesis tystiolaeth, yn bennaf ar bynciau iechyd a gofal cymdeithasol. Yn CEDAR, mae'n cefnogi'r tîm synthesis tystiolaeth ac mae'n ymwneud â phrosiectau y gofynnir amdanynt gan NICE, Cydbwyllgor Comisiynu GIG Cymru (JCC), a sefydliadau eraill.

Mae ei gwaith arall yn cynnwys cynnal adolygiadau cyflym ar gyfer Canolfan Tystiolaeth Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru a chefnogi gwaith synthesis tystiolaeth SAPEA (Science Advice for Policy by European Academies). Mae ganddi arbenigedd ym mhob cam o gynhyrchu adolygiadau, o ddatblygu protocol i synthesis tystiolaeth.