Neidio i'r prif gynnwy
Dr. Judith White

Prif Ymchwilydd (Arweinydd Ymchwil)

Amdanaf i

Prif Ymchwilydd (Arweinydd Ymchwil)

Mae gan Judith BSc (Anrh) mewn Geneteg (Prifysgol Caerdydd) a PhD mewn Microbioleg Foleciwlaidd (Prifysgol Caerdydd) ac mae'n Gymrawd Ymchwil Anrhydeddus ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae Judith wedi gweithio yn y gorffennol mewn labordai academaidd gan ddefnyddio technegau moleciwlaidd blaengar ym meysydd microbioleg foleciwlaidd a biocemeg protein cardiaidd. Mae Judith wedi gweithio i CEDAR ers 2010 ac mae ganddi arbenigedd mewn methodoleg treialon clinigol, rheoli a dadansoddi. Bellach mae hi'n goruchwylio portffolio CEDAR o astudiaethau ymchwil, ein tîm o reolwyr treialon, ac mae'n bennaeth Grŵp Rheoli Ymchwil CEDAR. Mae Judith yn gweithio'n agos gyda chlinigwyr a gweithwyr proffesiynol perthynol i iechyd i ddylunio protocolau astudiaeth ac mae wedi cyfrannu at geisiadau ariannu llwyddiannus ar gyfer ystod o dreialon clinigol gan gynnwys astudiaethau a ariennir gan NIHR a HCRW. Mae gan Judith ddiddordeb arbennig mewn ymchwil Gofal Critigol ac ymyriadau llawfeddygol. Dyfarnwyd Gwobr Cydnabyddiaeth Staff i Judith yn y categori Ymchwil a Datblygu. Mae Judith wedi darlithio i fyfyrwyr israddedig mewn dylunio astudiaethau a datblygu protocol. Mae wedi’i hyfforddi mewn Arfer Clinigol Da ac agweddau rheoleiddio ar dreialon dyfeisiau meddygol ac mae ganddi ddealltwriaeth drylwyr o’r fframwaith llywodraethu ymchwil ar gyfer rheoli astudiaethau ymchwil. Mae Judith wedi cael hyfforddiant ffurfiol mewn methodoleg Adolygu Systematig, ac wedi defnyddio hwn wrth gynnal adolygiad systematig llawn ar gyfer astudiaeth SIRT CtE a sawl Adroddiad Asesu ar gyfer NICE. Mae Judith yn ymarferydd PRINCE2, gyda phrofiad o reoli prosiectau cymhleth sy'n rhychwantu cyfnodau byr a hir.