Uwch Ymchwilydd
Uwch Ymchwilydd
Mae gan Elinor radd BSc (Anrh) mewn Gwyddorau Dynol a Chymdeithasol (Prifysgol Caerdydd), Meistr mewn Iechyd Cyhoeddus (Prifysgol Caerdydd), ac yn ddiweddar cwblhaodd PhD mewn Gwyddorau’r Golwg (Prifysgol Caerdydd). Canolbwyntiodd PhD Elinor ar werthuso diogelwch gwasanaethau gofal llygaid i gleifion yng Nghymru, gan ddefnyddio dulliau cymysg. Mae ganddi brofiad o asesu diogelwch cleifion a diwylliant diogelwch, gyda'r bwriad o wella diogelwch gwasanaethau gofal iechyd.
Mae gan Elinor arbenigedd mewn defnyddio dulliau ymchwil meintiol ac ansoddol mewn ymchwil iechyd cyhoeddus, trwy ddylunio a rheoli prosiectau ymchwil a gwerthuso. Mae ganddi ddiddordeb brwd mewn cynnal gwerthusiadau manwl o systemau gofal iechyd cymhleth sy'n arwain at effeithiau pellgyrhaeddol ac yn hwyluso gwella gwasanaethau.
Cyhoeddiadau
MacFarlane, E., Carson-Stevens, A., North, R., Ryan, B. & Acton, J. (2022) A mixed-methods characterisation of patient safety incidents by primary eye care practitioners. Ophthalmic and Physiological Optics, 42(6). https://onlinelibrary.wiley.com/doi/epdf/10.1111/