Neidio i'r prif gynnwy
Ayesha Rahim

Prif Ymchwilydd (Arweinydd synthesis tystiolaeth)

Amdanaf i

Prif Ymchwilydd (Arweinydd synthesis tystiolaeth)

Mae gan Ayesha BSc (Anrh) mewn Gwyddorau Biolegol a Meddygol a PGDip mewn Radiotherapi (Prifysgol Lerpwl). O fewn CEDAR, mae Ayesha yn gweithio'n bennaf ar brosiectau asesu technolegau iechyd ac adolygu tystiolaeth, ar ran sefydliadau fel y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) a Chydbwyllgor Comisiynu GIG Cymru (JCC). Mae ganddi brofiad ym mhob agwedd ar brosesau adolygu systematig gan gynnwys datblygu chwiliadau, arfarnu beirniadol, echdynnu data a synthesis tystiolaeth. Bu’n gweithio fel Radiograffydd Therapiwtig cofrestredig HCPC yng Nghanolfan Haematoleg ac Oncoleg Bryste cyn dechrau yn CEDAR.