Neidio i'r prif gynnwy
Agatha Grove-Hills

Ymchwilydd

Amdanaf i

Ymchwilydd

Mae gan Agatha radd baglor mewn Niwrowyddoniaeth (Prifysgol Caerdydd) a gradd meistr mewn Niwroddelweddu (CUBRIC). Mae hi'n Wyddonydd Gwerthuso, sy'n darparu synthesis tystiolaeth ac adolygiadau cyflym ar gyfer Cydbwyllgor Comisiynu GIG Cymru (JCC) a'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE). Mae ei gwaith yn cynnwys sawl ffrwd gwaith arall yn CEDAR megis Ymchwil, Gwerthuso Gwasanaeth, a Gwerth mewn Iechyd Cymru (WViH).

Cyn ymuno â CEDAR, bu'n gweithio fel technegydd radiofferylliaeth yn cynhyrchu pigiadau un-defnydd aseptig ar gyfer protocolau delweddu amrywiol (metastasis canser esgyrn, morffoleg arennol, delweddu thyroid). Mae hi hefyd yn gweithio fel uwch gynorthwyydd ymchwil (Prifysgol Metropolitan Caerdydd) ar Brosiect ACTIF, gan fesur a rhagweld dirywiad gwybyddol a chorfforol mewn poblogaethau oedrannus.