Mae cleifion difrifol wael sydd angen cymorth anadlu yn cael tiwb wedi'i osod yn eu pibell wynt. Mae'r tiwb anadlu yn atal y corff rhag peswch a llyncu, ac felly gall hylifau o'r geg a'r stumog deithio i'r ysgyfaint ac achosi niwmonia. Mae math o diwb anadlu o'r enw PneuX wedi'i gynllunio i leihau faint o hylif sy'n gallu teithio i'r ysgyfaint trwy ddefnyddio cwff arbennig sy’n llenwi ag aer sy'n selio’r llwybr anadlu.
Mae angen inni gynnal ymchwil o ansawdd uchel i brofi a yw'r tiwb PnueX yn lleihau faint o hylif sy'n mynd i'r ysgyfaint o'i gymharu â thiwb anadlu safonol, ac a yw hyn yn lleihau'r siawns y bydd claf yn cael niwmonia. Cyn y gallwn wneud hyn, mae angen i ni ddarganfod a yw astudiaeth fawr yn ymarferol a chasglu data a fydd yn ein helpu i gynllunio treial clinigol yn y dyfodol.
Ein nod yw recriwtio 50 o gleifion difrifol wael sydd angen cymorth anadlu mewn uned gofal dwys yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Bydd hanner y cleifion yn derbyn y tiwb PneuX a hanner yn cael y tiwb safonol.
Byddwn yn cymryd samplau gan gleifion i ddarganfod a yw hylif o'r stumog, a bacteria, wedi mynd i mewn i'r ysgyfaint, ac a yw cleifion yn cael niwmonia. Byddwn yn darganfod a yw'r astudiaeth yn ymarferol ac a allwn ei gwella.
Mae hwn yn hap-dreial dichonolrwydd agored wedi'i reoli mewn un ganolfan. Nod yr astudiaeth yw asesu dichonoldeb cynnal hap-dreial wedi’i reoli i gymharu'r PneuX ETT â gofal safonol mewn cleifion yn yr ysbyty sydd angen cymorth anadlu mecanyddol. Y boblogaeth cleifion ar gyfer yr astudiaeth hon yw'r rhai â salwch critigol sydd angen cymorth mewndiwbio a chymorth anadlu. Bydd cleifion yn cael eu rhoi ar hap mewn cyfrannau cyfartal i un o 2 fraich: i gael eu mewndiwbio gan ddefnyddio Tiwb Endotracheal Venner PneuX (ETT) neu ddefnyddio'r tiwb safonol. Ar gyfer yr astudiaeth ddichonoldeb hon, bydd cyfanswm o 50 o gleifion yn cael eu rhannu ar hap yn ddau grŵp (25 ym mhob un). Bydd pob claf yn cael ei recriwtio ar un safle (Ysbyty Athrofaol Cymru, rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro). Bydd yr astudiaeth yn ymchwilio i nifer o fesurau dichonoldeb gan gynnwys recriwtio, darparu’r ymyriad (gan gynnwys digwyddiadau niweidiol sy’n gysylltiedig â’r ddyfais), derbynioldeb a glynu at yr ymyriad a samplu, defnyddio Peptest i fesur digwyddiadau micro-anadlu, cyfradd samplau positif pepsin, cyfradd “tracheobronchial colonisation” (i’w gynnal gan Brifysgol Caerdydd), maint yr allsugno isglotol, cyfradd VAP, hyd yr arhosiad yn ICU ac yn yr ysbyty, dangos dilysrwydd dogfennaeth yr astudiaeth a darparu data rhagarweiniol ar gyfer 50 o gleifion. Bydd y data yn llywio'r peilot a phrif gam yr astudiaeth.