Mae ataliad ar y galon (lle mae calon person yn stopio curo) sy’n digwydd y tu allan i'r ysbyty yn effeithio ar tua 300,000 o bobl bob blwyddyn yn Ewrop. Dim ond 30-55% o'r rhai sy'n cael eu derbyn i uned gofal dwys (ICU) fydd yn ei oroesi a bydd llawer yn cael eu gadael gydag anabledd. Pan fydd cleifion yn ICU ar ôl dioddef o ataliad ar y galon, bydd llawer o weithredoedd arferol eu corff yn cael eu rheoli gan feddygon gan ddefnyddio ystod o feddyginiaethau, dyfeisiau a thriniaethau eraill. Nod y meddygon yw cadw mesuriadau cleifion o fewn ystod benodol. Fodd bynnag, nid ydym yn gwybod yn union beth ddylai'r mesuriadau hyn fod.
Nod y treial hwn yw profi sut orau i reoli tri mesur pwysig yn ICU i weithio allan beth sydd orau i gleifion. Ymhlith y rhain mae:
Mae'r astudiaeth yn hap-dreial rheoledig a gynhelir yn adrannau ICU yn y DU ac yn fyd-eang. Bydd yn agored i gleifion anymwybodol yn ICU sy'n oedolion sydd wedi cael ataliad y galon a ddigwyddodd y tu allan i'r ysbyty ac mae eu calon wedi dechrau pwmpio eto. Bydd cleifion cymwys yn cael eu recriwtio i'r astudiaeth pan fyddant yn cyrraedd yr ysbyty ac yn cael eu dyrannu ar hap i dderbyn gofal a fydd yn profi cyfuniad o'r 3 ffactor sy’n cael eu hastudio (lefel tawelydd, rheoli tymheredd, a phwysedd gwaed). Bydd y tîm sy'n gofalu am y claf yn gwybod i ba grŵp y mae'r cyfranogwr wedi'i ddyrannu iddo, ond ni fydd y cyfranogwr, ei deulu, a'r staff eraill sy'n rhan o'r treial.
Byddwn yn mesur a yw cyfranogwyr yn fyw, ac os felly, eu hiechyd, gweithredoedd eu corff a'u hansawdd bywyd. Byddwn yn casglu data yn ystod amser cyfranogwyr yn yr ysbyty, ac ar 30 diwrnod a 6 mis ar ôl ymuno â’r astudiaeth.