Neidio i'r prif gynnwy

RSA-PACE

Crynodeb Lleyg

Mae Arrhythmia Sinws Anadlol (RSA) yn amrywiad arferol yng nghyfradd y galon; sy’n cynyddu pan fyddwch chi'n anadlu i mewn ac yn arafu pan fyddwch chi'n anadlu allan. Mae RSA yn lleihau mewn pobl hŷn a phobl sydd â chyflyrau hirdymor fel methiant y galon. Mae’r astudiaeth hon yn asesu a allwn ddefnyddio rheolydd calon dros dro i adfer RSA mewn bodau dynol yn ddiogel, ac a all hyn wella gweithrediad y galon mewn cleifion â methiant y galon. Mae hwn yn ymchwiliad clinigol i brototeip o ddyfais feddygol newydd.

Mae'r astudiaeth hon yn cynnwys cleifion â methiant y galon sy'n cael llawdriniaeth ar y galon. Byddwn yn cymharu'r effaith o gael y dull newydd o reoli calon RSA yn erbyn y dull safonol o reoli calon (ar gyfradd calon sefydlog). Bydd cleifion yn cael eu dyrannu ar hap i un o'r triniaethau hyn a byddant yn derbyn triniaeth rheoli calon am sawl diwrnod tra byddant yn yr ysbyty yn gwella o'u llawdriniaeth. Byddwn yn profi a all y ddyfais newydd ddarparu'r dull rheoli calon RSA i'r galon, ac a yw mor ddiogel â’r dull arferol. Byddwn hefyd yn profi a yw'n gwella gweithrediad y galon dros sawl diwrnod, ac os bydd unrhyw welliannau yn diflannu ychydig ddyddiau ar ôl i'r driniaeth rheoli calon ddod i ben.

Manylion yr Astudiaeth

  • Teitl llawn y treial clinigol: Rheoli calon arrhythmia sinws anadlol ar ôl grafftiad i ddargyfeirio'r rhydwelïau coronaidd (CABG) mewn cleifion â methiant y galon gyda ffracsiwn alldaflu is (HFrEF) (RSA-PACE)
  • Dyluniad yr astudiaeth: Mae RSA-PACE yn hap-dreial rheoledig, aml-ganolfan cyntaf mewn pobl
  • Prif Ymchwilydd: Yr Athro Zaheer Yousef, Cardiolegydd Ymgynghorol, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
  • Rheolwr y treial: Dr Susan Peirce, CEDAR, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
  • Noddwr: Ceryx Medical
  • Cyfeirnod Pwyllgor Moeseg Ymchwil: 24/YH/0110
  • IRAS: 315761
  • Cyllid: masnachol
  • Cofrestriad y treial: NCT06359938
  • Statws: Mae’n cael ei sefydlu

Dogfennau'r astudiaeth

Cliciwch y DDOLEN hon ar gyfer dogfennau’r astudiaeth a gwybodaeth am safleoedd sy'n ymwneud â recriwtio.