Mae twymyn mewn babanod ifanc (babanod hyd at 90 diwrnod oed) yn rheswm cyffredin dros ymweliadau ag adran achosion brys a gall fod yn arwydd o heintiau difrifol fel llid yr ymennydd neu sepsis. Ar hyn o bryd, defnyddir gweithdrefnau mewnwthiol (poenus) fel profion gwaed a phigiadau meingefnol (lle mae nodwydd yn cael ei roi yn y cefn i gael hylif asgwrn cefn) yn gyffredin i ddiystyru'r heintiau hyn. Mae'r rhan fwyaf o fabanod hefyd yn cael eu trin â gwrthfiotigau a'u derbyn i'r ysbyty.
Yn aml, mae twymyn mewn babanod yn cael ei achosi gan heintiau firaol nad oes angen ymyriadau mewnwthiol o'r fath. Mae tystiolaeth ddiweddar wedi dangos y gellir defnyddio profion firaol, a berfformir trwy swab trwyn syml, i adnabod babanod nad oes angen gweithdrefnau mewnwthiol neu wrthfiotigau arnynt.
Nod yr astudiaeth hon yw penderfynu a yw profion cyflym ar gyfer tri firws cyffredin; RSV (Firws Syncytiol Anadlol), COVID (SARS-CoV-2), a Ffliw yn gallu lleihau nifer y gweithdrefnau mewnwthiol, yr amser a dreulir yn yr adran achosion brys, derbyniadau i'r ysbyty a’r defnydd o wrthfiotigau. Mae profion cyflym ar gael sy'n gofyn am swabiau o'r trwyn neu'r gwddf yn unig ac sy'n darparu canlyniadau cyflym yn yr adran achosion brys (canlyniadau o fewn awr).
Er mwyn archwilio i hyn yn llawn, mae angen astudiaeth fwy, nid yn unig yng Nghymru ond ar draws y DU. Cyn ymgymryd ag astudiaeth mor fawr, mae angen astudiaeth 'beilot' lai i asesu a yw'n bosibl cynnal yr astudiaeth fwy i safon uchel. Mae treialon mawr hefyd yn ddrud ac mae astudiaeth lai yn helpu sicrhau bod cyllid gan y llywodraeth yn cael ei ddefnyddio'n briodol. Nod yr astudiaeth beilot hon yw gwerthuso a yw'n bosibl cyflwyno astudiaeth fwy, trwy gasglu gwybodaeth am nifer y bobl sy'n barod i gymryd rhan, sut mae clinigwyr yn defnyddio'r prawf, ac a yw'r prawf yn cael unrhyw effaith ar y canlyniadau uchod.
Yn ystod yr astudiaeth lai, bydd babanod rhwng 29 a 90 diwrnod oed yn cael eu dyrannu ar hap i naill ai dderbyn y gofal arferol heb brawf firaol neu i dderbyn gofal arferol A’R prawf firaol. Ni fydd yr astudiaeth yn newid unrhyw rannau eraill o'r gofal, a fydd yn cael ei adael i'r meddygon a'r nyrsys.
Wrth ddylunio'r astudiaeth 'beilot' lai, mae tîm yr astudiaeth wedi siarad â rhieni a gofalwyr i sicrhau bod y dyluniad yn cynnwys yr hyn sy'n bwysicaf iddynt. Trwy gydol yr astudiaeth, bydd aelodau o’r cyhoedd yn ymwneud â dylunio'r protocol, taflenni i gleifion a sut rydym yn cyfathrebu'r canfyddiadau.
Mae'r ymchwil hon yn cyd-fynd â'r hyn y mae'r cyhoedd yng Nghymru a Llywodraeth Cymru wedi'i ddweud sy'n bwysig i wella gofal iechyd plant. Mae hefyd yn cyd-fynd â barn Llywodraeth y DU ar yr angen i leihau'r defnydd o wrthfiotigau lle mae'n ddiogel gwneud hynny. Os yw’r astudiaeth yn llwyddiannus, gallai'r canfyddiadau lywio sut mae babanod â thwymyn yn cael eu gofalu ledled Cymru, y DU ac Iwerddon.