Mae Mesurau Profiad a Adroddir gan Gleifion (PREMs) yn gofyn i gleifion am eu profiad o wasanaeth gofal iechyd. Mae'n rhoi llais iddyn nhw rannu eu barn. Mae PREMs yn caniatáu i ddarparwyr gofal iechyd weld lle mae gofal yn dda, a lle y gallent wella. Mae llawdriniaeth fasgwlaidd yn arbenigedd llawfeddygol sy'n gofalu am bibellau gwaed pobl (rhydwelïau a gwythiennau). Nid oes PREM ar gael i gleifion fasgwlaidd. Rydym am greu PREM ar gyfer y grŵp cleifion hwn.
Mae PREM yn caniatáu darparwyr gofal iechyd i gofnodi a deall profiadau cleifion o'u triniaeth. Mae'n rhoi ffordd i gleifion roi adborth ar eu profiad gofal iechyd. Gall PREMs helpu darparwyr gofal iechyd gwneud newidiadau i ofal cleifion, gan nodi meysydd o arfer da a meysydd i'w gwella. Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i gefnogi'r defnydd o PREMs.
Datblygu PREM penodol ar gyfer cleifion llawdriniaeth fasgwlaidd.
Byddwn yn crynhoi'r llenyddiaeth am PREMs mewn llawdriniaeth. Yna byddwn yn cynnal grwpiau ffocws a chyfweliadau â chleifion a staff i greu PREM drafft ar gyfer cleifion fasgwlaidd yng Nghymru. Bydd y PREM drafft yn cael ei gyfieithu i'r Gymraeg. Bydd y cam hwn yn cael ei gwblhau cyn i'r cyllid ar gyfer PREMIERE ddechrau.
Yn yr ail gam, bydd nifer fwy o gleifion fasgwlaidd (100-300 yn dibynnu ar ba mor hir yw'r PREM drafft) o ysbytai ledled Cymru a'r DU yn llenwi'r holiadur. Bydd profion ystadegol yn edrych ar y canlyniadau i weld a yw'r holiadur yn gweithio'n dda o ran casglu profiadau cleifion. Yn seiliedig ar y canlyniadau hyn, bydd newidiadau bach yn cael eu gwneud i wella’r PREM drafft. Bydd hyn yn sicrhau bod y PREM terfynol yn barod i'w ddefnyddio'n eang yng Nghymru a thu hwnt.
Mae tîm profiad y claf BIPCAF wedi adolygu ein deunyddiau i gleifion. Mae ein tîm ymchwil yn cynnwys cyd-ymgeiswyr PPI (DC ac AH). Mae DC wedi colli dau aelod o’r corff ac wedi cael llawer o lawdriniaethau fasgwlaidd. Mae gan DC brofiad o godi ymwybyddiaeth am glefyd fasgwlaidd trwy fforymau cyhoeddus fel yr elusen Limbless Association a BBC Radio Cymru. Mae gan AH broblemau gyda'i choes o ganlyniad i ysmygu a chafodd lawdriniaeth dwll clo i helpu gyda hynny. Roedd ganddi rai problemau ar ôl y driniaeth. Dyma'r tro cyntaf iddi fod yn gynrychiolydd PPI. Cefnogodd DC ac AH ein dyluniad ymchwil a byddant yn aelodau o'r grŵp llywio. Hefyd, mae ein hymchwil yn canolbwyntio ar roi llais i gleifion a bydd yn cynnwys cleifion ledled Cymru. Bydd grŵp amrywiol o gleifion yn cymryd rhan ym mhob cam o ddatblygiad y PREM.
Er mwyn cyrraedd cynulleidfa ehangach, byddwn yn rhannu ein canfyddiadau trwy lwyfannau fel cynadleddau cenedlaethol a rhyngwladol, cyhoeddiadau mewn cyfnodolion meddygol, datganiadau i'r wasg, ymgyrchoedd ar y cyfryngau cymdeithasol, a ffeithluniau. Mae gan y Prif Ymchwilydd brofiad o ymgysylltu â'r cyfryngau cenedlaethol a rhyngwladol a lledaenu gwybodaeth ar y radio a'r teledu ac mae llawer o aelodau'n defnyddio cyfryngau cymdeithasol.