Yn y rhan fwyaf o gleifion â methiant y galon nid yw'r galon yn gwagio'n iawn pan fydd yn cyfangu, ac nid oes digon o waed yn cael ei bwmpio allan i ddiwallu anghenion y corff. Fodd bynnag, mae gan rai cleifion yr un arwyddion a symptomau er bod eu calonnau'n gwagio'n eithaf da. Mae gan y cleifion hyn 'fethiant y galon gyda ffracsiwn alldafliad cadwedig' (HFpEF). Ar gyfer y cleifion hyn nid yw eu calon yn gweithio'n dda yn ystod ymarfer corff. Ychydig o driniaethau sydd ar gael ac ni ddefnyddir rheolyddion calon yn gyffredinol.
Yn astudiaeth MAPPLE, bydd hyd at 10 claf â HFpEF yn cael rheolydd calon. Byddwn yn profi a allai rheolydd calon sy'n cydgysylltu ochr chwith ac ochr dde'r galon (rheolydd deufentriglaidd) ei helpu i weithio'n well yn ystod ymarfer corff. Bydd cyfranogwyr yn cael 3 sesiwn o brofion ymarfer beicio ac ecocardiogramau [HW(aVU-C1] yn Ysgol Gwyddorau Iechyd a Chwaraeon Prifysgol Metropolitan Caerdydd. Bydd tri math o reolydd calon yn cael eu profi i weld a oes unrhyw wahaniaeth rhyngddynt cyn ac ar ôl ymarfer corff.
Noddwyd yr Ymchwiliad Clinigol hwn yn wreiddiol gan Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ysbytai Athrofaol Norfolk a Norwich gyda chefnogaeth Uned Treialon Clinigol Norwich. Ymunodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro â’r astudiaeth, daeth yn unig safle’r astudiaeth, a llwyddodd i recriwtio 1 claf cyn i bandemig Covid atal ymchwil glinigol nad oedd yn hanfodol rhag mynd ymlaen. Mae’r astudiaeth bellach yn ailddechrau gyda Bwrdd Ysbyty Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn y noddwr newydd a’r Athro Yousef yn Brif Ymchwilydd. Mae CEDAR wedi cymryd drosodd rôl Uned Treialon Clinigol, ac mae cynllun yr astudiaeth, y ddogfennaeth, a'r gronfa ddata i gyd wedi'u haddasu o'r rhai a ddatblygwyd gan reolaeth flaenorol yr astudiaeth.