Cefndir:
Band trwchus o feinwe yng ngwaelod y droed sy'n glynu wrth asgwrn y sawdl yw ffasia’r plantar. Gall llid yn ffasia’r plantar achosi poen sawdl. Mae hyn yn brifo cymaint fel ei fod yn cyfyngu ar symudiadau a gweithgareddau. Mae'n gyffredin iawn - mae bron i 1 o bob 10 o oedolion canol oed neu hŷn wedi profi poen sawdl plantar. Bob blwyddyn, mae tua 1,200 o bobl â phoen sawdl yn cael eu hatgyfeirio at Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro (BIPCAF) ond mae cyfanswm y bobl â phoen sawdl ledled Cymru yn debygol o fod yn llawer mwy. Mae hyn yn effeithio ar iechyd a lles ein cenedl ac economi Cymru.
Mae triniaethau ar gyfer poen sawdl yn cynnwys cyngor ar ymarfer corff, mewnosodiadau ar gyfer esgidiau, a therapi siocdon (uwchsain). Y nod yw lleihau poen ac adfer gweithrediad. Gall pob triniaeth weithio'n well i rai pobl nag eraill. Gall oedran, pwysau neu lefel gweithgarwch effeithio ar adferiad. Mae dull sy'n canolbwyntio ar y claf yn addasu triniaethau yn unol ag anghenion pobl unigol. Ei nod yw gwella canlyniadau sydd o bwys i bobl â phoen sawdl.
Dangosodd astudiaeth ddiweddar fod cleifion eisiau mynediad cynharach at fideos hunangymorth. Roeddent eisiau mwy o wybodaeth am sut mae triniaethau gwahanol yn gweithio a pha gyfuniad o driniaethau sydd fwyaf effeithiol. Fodd bynnag, heb ragor o ymchwil, bydd y loteri cod post o ofal hwn yn parhau i fodoli ledled Cymru.
Nod:
Yn y tymor hir, rydym am weithio gyda chleifion a staff y GIG i ganfod pa lwybrau triniaeth sy'n gweithio orau. Bydd yr astudiaeth ddichonoldeb fach hon yn ein helpu i benderfynu a yw’n bosib cynnal treial ar raddfa lawn.
Daw ein hastudiaeth ddichonoldeb o dan gam 3 yn y dilyniant canlynol: 1) Datblygu fideo hunangymorth; 2) Adolygu llenyddiaeth; 3) Astudiaeth dichonoldeb ar un safle; 4) Treial aml-ganolfan ar raddfa lawn i brofi effeithiolrwydd; 5) Lledaenu a graddio’r gweithrediad ledled Cymru; 6) Rhannu dulliau ag adrannau eraill.
Dull:
Mae ein hastudiaeth ddichonoldeb yn defnyddio dyluniad ymchwil newydd sy'n edrych ar lwybrau claf cyfan yn hytrach na thriniaethau unigol. Byddwn yn recriwtio 50 o bobl a chafodd eu hatgyfeirio at BIPCAF gyda phoen sawdl parhaus. Cânt eu dosbarthu ar hap i un o 4 llwybr triniaeth gwahanol (a elwir yn ymyriadau addasol). Mae pob triniaeth ar gael yn y GIG ar hyn o bryd. Byddwn yn casglu data’r astudiaeth o gyfranogwyr a staff gan ddefnyddio arolygon, cyfweliadau, a grwpiau ffocws.
Yr hyn rydym yn gobeithio ei ddarganfod (amcanion):
Un o’n mesurau canlyniadau allweddol yw a yw’r llwybrau triniaeth addasedig yn dderbyniol i gleifion. Bydd staff hefyd yn rhoi eu barn am addasu’r ymyriadau ymaddasol. Byddwn yn dysgu pa mor dda y mae dyluniad ein hastudiaeth yn gweithio, a sut i'w wella.
Cynnwys y cyhoedd:
Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â chleifion a chlinigwyr i gyd-gynhyrchu’r cynnig ymchwil hwn. Mae un o’n cyd-ymgeiswyr yn arwain tîm o bartneriaid cynnwys cleifion a’r cyhoedd (PPI). Helpodd pedwar o bobl â phrofiad o fyw gyda phoen sawdl a podiatrydd ymddeoledig i ddatblygu ein cynllun partneriaeth PPI. Maent hefyd wedi rhoi cyngor ar y canlyniadau sydd bwysicaf i gleifion.
Rhannu ein canfyddiadau:
Byddwn yn defnyddio ein gwefan, cyfryngau cymdeithasol, a chylchlythyr i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i bobl. Ar ddiwedd y prosiect, byddwn yn cynnal digwyddiad i drafod adborth rhanddeiliaid lle byddwn yn trafod beth mae’r canlyniadau yn ei olygu i’n cleifion ac i wasanaethau podiatreg yng Nghymru. Bydd partneriaid PPI yn helpu i rannu ein canfyddiadau i'r cyhoedd. Efallai y bydd staff eraill y GIG ac ymchwilwyr hefyd am fabwysiadu ein dulliau i wella llwybrau clinigol eraill yn y dyfodol. Byddwn yn rhannu ein canfyddiadau â rhwydweithiau’r GIG, eu cyhoeddi mewn cyfnodolyn academaidd, ac yn eu cyflwyno mewn cynadleddau.