Neidio i'r prif gynnwy

Ymchwil Clinigol

Mae CEDAR yn cyflawni swyddogaethau rheoli treialon clinigol gan gynnwys:

  • Hwyluso astudiaethau newydd - methodoleg, adolygiadau systematig, Cynnwys Cleifion a’r Cyhoedd (PPI), costio, ceisiadau grant, datblygu protocol
  • Ystyriaethau rheoleiddio/llywodraethu – Nawdd, REC, MHRA, cymeradwyaethau lleol
  • Rheoli treialon – hap-osod, dogfennaeth treial hanfodol, monitro safle, pwyllgorau
  • Rheoli data – dylunio CRF, holiaduron, dylunio a phrofi cronfeydd data, SOPs, adolygu a chofnodi data.
  • Diogelwch – adolygu ac adrodd ar ddigwyddiadau andwyol.
  • Ystadegau ac adroddiadau – maint y sampl, SAP, dadansoddi ac adolygu ystadegol, adroddiadau astudiaeth, cyhoeddiadau.

Mae CEDAR yn cynnwys tîm hynod brofiadol ac amlddisgyblaethol o weithwyr y GIG a Phrifysgol Caerdydd. Mae uwch-reolwyr treial/uwch-ymchwilwyr yn cymryd cyfrifoldeb am bob agwedd ar ein portffolio o dreialon, gydag unigolion a enwir yn arwain y gwaith o gynllunio’r astudiaeth, prosesau cymeradwyaeth reoliadol, cynnal/monitro, dadansoddi ac adrodd.

Mae system sicrhau ansawdd gadarn CEDAR yn sicrhau ein bod yn bodloni rheoliadau a deddfwriaeth briodol, gan gynnwys egwyddorion Arfer Clinigol Da (GCP), Fframwaith Llywodraethu Ymchwil y GIG, y Ddeddf Diogelu Data a Rheoliadau’r DU sy’n gweithredu Cyfarwyddeb yr UE ar gyfer Treialon Clinigol.

Rydym yn gweithio gyda chlinigwyr, ymchwilwyr academaidd, partneriaid masnachol/partneriaid mewn diwydiant, a sefydliadau trydydd sector.

RSA-PACE

Mae RSA-PACE yn dreial rheoledig, aml-ganolfan cyntaf mewn pobl, sy'n asesu a allwn ddefnyddio rheolydd calon dros dro i adfer Arrhythmia Sinws Anadlol (RSA) mewn bodau dynol yn ddiogel, ac a all hyn wella gweithrediad y galon mewn cleifion â methiant y galon.

STEPCARE

Mae'r treial STEPCARE yn hap-dreial rhyngwladol, a gychwynnir gan ymchwilydd, ar dair agwedd wahanol ar ofal safonol ar ôl ataliad y galon a ddigwyddodd y tu allan i'r ysbyty. Mewn dyluniad ffactoraidd 2x2x2, byddwn yn cymharu effaith tawelydd parhaus yn erbyn tawelydd lleiaf posibl, rheoli twymyn gyda dyfais yn erbyn rheoli twymyn heb ddyfais a tharged pwysedd gwaed uwch yn erbyn targed pwysedd gwaed is.

HELPP

Dichonoldeb datblygu llwybrau triniaeth personol i leddfu poen sawdl plantar gan ddefnyddio dyluniad astudiaeth hap-dreial dosbarthiad lluosog dilyniannol (SMART).

SPIN-VR

Hap-dreial dichonoldeb rheoledig, label agored, wedi’i reoli mewn un ganolfan i werthuso adsefydlu ffisiotherapi rhithwir yn y cartref sydd wedi'i bersonoli i’r claf o'i gymharu ag ymarferion ffisiotherapi safonol ar gyfer pobl â phoen osteoarthritis pen-glin. 

SPICE IV

Arfer Tawelyddu mewn Gwerthuso Gofal Dwys (Sedation Practice in Intensive Care Evaluation - SPICE IV). Tawelyddu’n gynnar gyda Dexmedetomidine yn erbyn Plasebo mewn cleifion hŷn â salwch difrifol sydd angen cymorth anadlu. Hap-dreial rheoledig, rhagolygol, aml-ganolfan, dwbl-ddall.

MAPPLE (Rheoli'r Galon yn ystod Methiant y Galon)

Mae hwn yn un safle Ymchwiliad Clinigol sy'n profi rheolydd calon presennol mewn grŵp newydd o gleifion. Y nod yw gweld a fydd rheoli calon yn helpu i wella mecaneg y galon pan fydd cleifion yn gwneud ymarfer corff.

PIL

Astudiaeth dulliau cymysg sy’n ymchwilio i effaith seicogymdeithasol lymffoedema yng Nghymru (Astudiaeth PIL).

PREMIERE

Mae Mesurau Profiad a Adroddir gan Gleifion mewn Astudiaeth Gwella Llawfeddygaeth Fasgwlaidd (PREMIERE) yn astudiaeth dulliau cymysg dilyniannol gan ddefnyddio grwpiau ffocws a chyfweliadau i ddatblygu a dilysu PREM fasgwlaidd.

POLARiS

Mae POLARiS yn hap-dreial rhyngwladol, label agored, aml-fraich, cam 3 o fewn astudiaeth carfan (dyluniad TWiCs), gyda chyfnod peilot mewnol, is-astudiaeth ansoddol a gwerthusiad economaidd.

PROVISION

Astudiaeth ansoddol sy'n defnyddio grwpiau ffocws i archwilio barn cleifion ar ddelweddu Mesurau Canlyniadau a Adroddir gan Gleifion mewn tri maes clinigol enghreifftiol.

VAP-X

Hap-dreial dichonoldeb rheoledig, un ganolfan, label agored i werthuso micro-anadlu gastrig mewn cleifion sy’n difrifol wael wedi'u mewndiwbio gan ddefnyddio system PneuX Venner o'i gymharu â gofal safonol gan ddefnyddio biofarciwr pepsin (VAP-X).

Astudiaeth gwerthuso Humigard (GWRES)

Ansawdd Adferiad a Hypothermia Perioperative mewn Cleifion Colectomi Dewisol: Astudiaeth Ddichonoldeb o Dreial Rheoledig ar Hap Dall