Neidio i'r prif gynnwy

Uwchsain a gynorthwyir gan ddeallusrwydd artiffisial (AI) mewn analgesia rhanbarthol

Gelwir y defnydd o dechneg rhwystro nerfau, a gynorthwyir gan ddelwedd uwchsain, yn anesthesia rhanbarthol dan arweiniad uwchsain (UGRA) a gall y dechneg hon ddarparu analgesia effeithiol mewn amrywiaeth o leoliadau clinigol a lleihau cymhlethdodau. Fodd bynnag, mae rhwystrau o hyd i gyflenwi UGRA mewn amgylchedd clinigol prysur, sy'n cynnwys dehongliad a hyder wrth ddarllen delweddau uwchsain.

Gall delweddau uwchsain a gynorthwyir gan ddeallusrwydd artiffisial cael gwared â rhai o'r rhwystrau hyn, trwy ddarparu nodweddion anatomegol lliw neu arweiniad nodwydd. Un cynnyrch o’r fath yw ScanNavTM anatomy PNB, a ddatblygwyd gan Intelligent Ultrasound Simulation (IUS, Medaphor Ltd).

Rôl CEDAR

Cysylltodd Intelligent Ultrasound Simulation â CEDAR gyda chais am ddadansoddiad economaidd iechyd o werth ScanNavTM Anatomy PNB. Fodd bynnag, roedd angen ymchwilio i'r arwyddion, y defnyddwyr a'r lleoliadau ar gyfer asesu gwerth y dechnoleg hon ar gyfer analgesia rhanbarthol, cyn gwneud asesiad economaidd iechyd. Felly cynhaliodd CEDAR adolygiad cwmpasu cyflym i nodi (i) defnyddiau a thueddiadau UGRA, (ii) hwyluswyr a rhwystrau i RA ac UGRA ar gyfer analgesia, a (iii) y sylfaen dystiolaeth bresennol ar gyfer ScanNavTM Anatomy PNB a dyfeisiau cystadleuwyr.

Bydd canlyniadau'r adolygiad cwmpasu hwn yn llywio ac yn arwain y camau nesaf sef gwerthusiad economaidd iechyd.