Mae CEDAR yn cydweithio â Gwasanaeth Gwaed Cymru (WBS), Gwasanaeth Casglu a Throsglwyddo Meddygol Brys (EMRTS), a’r Llynges Frenhinol ar brosiect i wella gofal trawma brys. Enw'r prosiect yw 'Ymchwiliadau i Blatennau Wedi'u Storio'n Oer ar gyfer Dadebru mewn Argyfwng Cyn Cyrraedd yr Ysbyty'.
Bob blwyddyn yng Nghymru, mae tua 1,300 o gleifion trawma yn wynebu sefyllfaoedd sy’n peryglu bywyd, ac mae angen trallwysiadau gwaed brys ar lawer ohonynt.
Mae ymchwil wedi dangos y gall cynnwys platennau mewn trallwysiadau cynnar wella canlyniadau'n sylweddol i gleifion sydd wedi'u hanafu'n ddifrifol. Mae platennau yn rhan o’r gwaed sy'n helpu gyda chlotio a gwella clwyfau. Fodd bynnag, mae platennau'n cael eu storio ar dymheredd ystafell ar hyn o bryd ac nid ydynt yn para’n hir iawn, sy'n eu gwneud yn anymarferol i'w defnyddio cyn cyrraedd yr ysbyty.
Mae'r prosiect hwn yn archwilio'r defnydd o blatennau sy'n cael eu storio ar dymheredd oer. Yn wahanol i'r dull presennol, mae platennau sydd wedi'u storio'n oer yn para'n hirach ac yn fwy effeithiol wrth helpu i glotio gwaed. Mae hyn yn eu gwneud yn offeryn newydd gwerthfawr ar gyfer timau meddygol brys. Mae'r prosiect yn ymchwilio i ddichonoldeb ac effeithiolrwydd storio platennau sydd wedi'u storio'n oer ochr yn ochr â chelloedd coch y gwaed mewn blychau cludo arbenigol. Mae canlyniadau cynnar yn addawol, sy'n dangos y gallai platennau sydd wedi'u storio'n oer fod yn fuddiol iawn.
Bydd y cam nesaf yn cynnwys profion pellach a dadansoddi data, gan baratoi'r ffordd ar gyfer treial clinigol posibl. Y nod yn y pen draw yw darparu gofal uwch i gleifion trawma yn y fan a'r lle, gan wella eu siawns o oroesi ac adfer yn sylweddol.
Ychydig o dystiolaeth sydd ar gael ynghylch sut y gellir defnyddio platennau yn ymarferol cyn cyrraedd yr ysbyty. Mae CEDAR yn cynnal astudiaeth Delphi fel rhan o'r prosiect ehangach. Mae techneg Delphi yn ceisio creu lefel o gytundeb ar y defnydd clinigol o blatennau cyn cyrraedd yr ysbyty.
Mae Dr Judith White (Prif Ymchwilydd, CEDAR) yn cynnal cyfres o gyfweliadau un-i-un gydag arbenigwyr o ystod o ddisgyblaethau yn ymwneud â defnyddio platennau cyn cyrraedd yr ysbyty. Byddwn hefyd yn rhoi arolwg i arbenigwyr.
Unwaith y ceir cytundeb barn ar set o feini prawf, bydd y tîm yn cyflwyno'r canfyddiadau ochr yn ochr ag ystadegau disgrifiadol, ac esboniadau naratif gan arbenigwyr.
Ariennir y prosiect gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru drwy’r Grant Ymchwil Iechyd 2022 (gwerth £74,546)
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Judith yn: Judith.White3@wales.nhs.uk