Neidio i'r prif gynnwy

Offer Ymgysylltu â Chleifion (PET)

Credir bod gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn yn gwella canlyniadau ac yn alinio gofal â gwerthoedd personol defnyddwyr gwasanaeth. Mae cysyniadau megis gwneud penderfyniadau ar y cyd a strategaethau hunanreoli yn dibynnu ar allu a pharodrwydd unigolyn i ymgysylltu'n weithredol, a gelwir y rhain yn aml yn 'gyfranogiad’ cleifion. Mae offer grymuso cleifion yn galluogi clinigwyr i benderfynu lefel gwybodaeth, sgil a hyder person, sy'n galluogi'r gofal i gael ei deilwra i'r person. Fodd bynnag, mae lefel llythrennedd iechyd unigolyn yn effeithio ar yr offer hyn, ond nid yw’r berthynas rhwng statws llythrennedd iechyd unigolyn a'i allu i ddeall pwrpas a pherthnasedd yr offer hyn mewn ymarfer clinigol wedi’i harchwilio llawer. Mae angen inni ddeall y perthnasoedd hyn i leihau anghydraddoldebau iechyd, gan fod defnyddwyr rheolaidd o wasanaethau gofal iechyd yn aml yn cael eu hystyried yn boblogaeth sy’n agored i niwed oherwydd canlyniadau iechyd gwaeth o gymharu â’r boblogaeth gyffredinol.

Rôl CEDAR

Mae CEDAR a'r Ganolfan Gwerth mewn Iechyd Cymru, sy'n ariannu'r prosiect, am archwilio'r berthynas rhwng llythrennedd iechyd a grymuso cleifion gan ddefnyddio amrywiaeth o offer.

Mae CEDAR yn cynnal cyfweliadau a grwpiau ffocws gyda chleifion a staff i asesu effaith llythrennedd iechyd ar gwblhau offer grymuso cleifion. Y gobaith yw y bydd y canlyniadau hyn yn helpu llywio dull safonol o fesur grymuso cleifion ledled Cymru.