Mae'r Rhwydwaith Niwrolegol Strategol yn cydweithio â CEDAR i gynnal ymarfer cwmpasu mewn perthynas â llwybrau niwroadsefydlu yng Nghymru. Ar hyn o bryd, yng Nghymru, mae diffyg darpariaeth gwasanaeth ar gyfer niwroadsefydlu Lefel 2 i gleifion nad ydynt yn addas ar gyfer gwasanaethau arbenigol a ariennir gan Gydbwyllgor Comisiynu GIG Cymru ac sydd hefyd y tu allan i lwybrau strôc. Mae cyflyrau sydd yn aml angen niwroadsefydlu lefel 2 yn cynnwys, ond nid ydynt yn gyfyngedig i, anaf trawmatig i'r ymennydd, gwaedlif is-arachnoid, sglerosis ymledol, syndrom Guillain-Barré, sy'n gofyn am adsefydlu amlddisgyblaethol dwys gan dîm sydd â gwybodaeth arbenigol. Mae effeithiau'r angen heb ei ddiwallu hwn yn cynnwys canlyniadau iechyd gwaeth, arosiadau hirach yn yr ysbyty ac anghenion gofal hirdymor mwy a'r costau cysylltiedig.
Bydd CEDAR yn cynnal ymarfer cwmpasu byr o'r llenyddiaeth sydd ar gael i asesu'r sylfaen dystiolaeth gyfredol. Bydd hyn yn cael ei ddilyn gan grwpiau ffocws i ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol yng Nghymru er mwyn ymchwilio a disgrifio'r sefyllfa bresennol a'i heffaith ar lwybrau adsefydlu eraill, mynediad pobl at wasanaethau adsefydlu a chanlyniadau pobl, gyda'r nod o nodi'r bylchau yn y llwybr adsefydlu.
Mae adroddiad cwmpasu CEDAR yn dangos bwlch clir yn nharpariaeth niwro-adsefydlu lefel 2 yng Nghymru. Mae'r gwaith yn dod â thystiolaeth o lenyddiaeth gyhoeddedig a mewnwelediadau o ymgysylltu â rhanddeiliaid at eu gilydd. Mae'n nodi angen heb ei ddiwallu yn y gwasanaethau hyn yng Nghymru, ac yn tynnu sylw at lle efallai nad yw'r ddarpariaeth bresennol yn diwallu anghenion pobl â chyflyrau niwrolegol sydd angen adsefydlu dwys, amlddisgyblaethol. Gweler yr adroddiad llawn yma.