Neidio i'r prif gynnwy

MOMENTUM

MOMENTUM

Teitl: iMprOving Multi-disciplinary rEhabilitatioN Transitions from the intensive care Unit in Medical and surgical patients (MOMENTUM): A therapist-led intervention development study

Cefndir

Mae'r uned gofal dwys (ICU) yn darparu gofal arbenigol dwysedd uchel i gleifion sy'n ddifrifol wael. Mae tystiolaeth gref yn y DU i awgrymu, yn ystod cyfnod trosglwyddo cleifion o'r Uned Gofal Dwys i wardiau eraill, bod ansawdd gofal yn aml yn lleihau, gan arwain at ganlyniadau iechyd gwael. Dangosodd rhaglen gwella ansawdd ddiweddar ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro welliannau posibl sylweddol mewn gofal, gan leihau hyd yr arhosiad yn yr ysbyty trwy ofal gwell yn ystod cyfnod trosglwyddo cleifion o'r Uned Gofal Dwys. Bydd y prosiect ymchwil hwn yn ymchwilio’r cyfnod o drosglwyddo cleifion o’r Uned Gofal Dwys i wardiau eraill, er mwyn gwella dealltwriaeth o daith y claf a datblygu ymyrraeth amlddisgyblaethol, sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac sy'n canolbwyntio ar y person, i wella canlyniadau i'r cleifion hyn.

Rôl CEDAR

CEDAR fydd yn arwain y prosiect ymchwil hwn, gan ymgymryd â chasglu data, dadansoddi a dehongli, ac adrodd.