Neidio i'r prif gynnwy

Gwerthuso Rhaglen COVID-19 Nosocomiaidd

Ariannodd Llywodraeth Cymru raglen dwy flynedd i ymchwilio i’r holl heintiau COVID-19 a gafwyd mewn ysbytai yng Nghymru, yn ystod y pandemig. Mae gwerthusiad rhaglen ar y gweill i wneud y gorau o'r cyfleoedd i ddysgu a gwella rhaglenni'r dyfodol.

Rôl CEDAR

Mae CEDAR wedi’i gomisiynu i gynnal cyfweliadau â staff sy’n arwain y rhaglen ym mhob un o’r byrddau iechyd, y tîm cenedlaethol a Llywodraeth Cymru. Diben y cyfweliadau hyn yw cael adborth gan staff, ynghylch yr hyn a weithiodd yn dda a’r hyn na weithiodd cystal, er mwyn cynhyrchu’r gwersi a ddysgwyd o’r rhaglen. Bydd y dysgu hwn yn cael ei ddefnyddio i lywio rhaglenni yn y dyfodol.