Neidio i'r prif gynnwy

Gwerthusiad rhaglen PIPYN (cyfranogwyr)

Diolch i chi am ystyried cymryd rhan mewn cyfweliad i'n helpu i ddeall eich profiad o raglen PIPYN. Mae'r prosiect hwn yn cael ei gynnal gan CEDAR (Canolfan ar gyfer Gwerthuso, Asesu Dyfeisiau ac Ymchwil Gofal Iechyd), sy'n rhan o Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro. 

Cymerwch yr amser i ddarllen y daflen wybodaeth i gyfranogwyr i'ch helpu i benderfynu a hoffech chi gymryd rhan. Gallwn gynnal y cyfweliad ar alwad fideo, dros y ffôn, neu wyneb yn wyneb. Bydd yr apwyntiad yn para awr a hanner er mwyn caniatáu amser i siarad am y prosiect a gwirio eich bod yn hapus i gymryd rhan.

Os byddwch chi'n cwblhau'r ffurflen mynegi diddordeb ac yn dymuno cymryd rhan, bydd ymchwilydd o CEDAR yn cysylltu â chi i drefnu'r cyfweliad. Mae'n fwyaf tebygol mai Christina Lloydwin, uwch ymchwilydd yn y tîm, fydd hon, ond mae'n bosibl y bydd yn ymchwilydd arall.

Cliciwch yma i lenwi'r ffurflen mynegi diddordeb os ydych chi'n hapus i gymryd rhan mewn cyfweliad.

Cyn y cyfweliad, bydd yr ymchwilydd yn mynd trwy broses ganiatâd, i wneud yn siŵr eich bod chi'n hapus i gymryd rhan. Byddwn yn trafod y ffurflen a bydd yr ymchwilydd yn ei llenwi ar eich rhan.

Mae'r dogfennau yn y dolenni wedi'u hysgrifennu yn Saesneg, byddwn yn eu cyfieithu i'r Gymraeg ar gais. Hawys Waddington yw ein hymchwilydd sy'n siarad Cymraeg. Cysylltwch â Hawys drwy e-bost yn Hawys.Waddington@wales.nhs.uk neu ffoniwch swyddfa CEDAR ar 029 21844771 i ofyn am wybodaeth a/neu gyfweliad yn y Gymraeg.