Neidio i'r prif gynnwy

Gwerthusiad Gwasanaeth Clefyd Llid y Coluddyn (IBD)

Cefndir

Mae clefyd llid y coluddyn (IBD), sy'n cynnwys llid briwiol y coluddyn a chlefyd Crohn, yn effeithio ar tua 25,000 o unigolion yng Nghymru ac yn cael effaith sylweddol ar ansawdd bywyd unigolyn.

Ers 2017, mae’r tîm IBD ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wedi cyflwyno cyfres o fesurau yn raddol i wella’r gofal i gleifion ag IBD. Nod y mesurau hyn yw lleihau achosion lle mae’r symptomau’n ailgychwyn a lleihau difrifoldeb yr achosion hyn, gwella rheolaeth ar y cyflwr yn y gymuned ac atal yr angen am dderbyniadau i'r ysbyty a llawdriniaethau mewnwthiol.

Rôl CEDAR

Edrychodd CEDAR ar sut roedd newidiadau i ddarpariaeth gwasanaeth IBD ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn effeithio ar ganlyniadau cleifion a chostau gofal, gan gynnwys newidiadau i dderbyniadau brys i’r ysbyty, cyfraddau llawdriniaeth a’r defnydd o feddyginiaethau biolegol. Trwy ddefnyddio arolygon, cyfweliadau manwl a dadansoddiad o ddata eilaidd ar gyfer canlyniadau iechyd, casglodd CEDAR barn defnyddwyr gwasanaeth o'r gwasanaeth.

Canfu'r gwerthusiad ganlyniadau cadarnhaol, gan ddangos lefelau uchel o foddhad cleifion, cyfraddau derbyniadau brys is a chyfraddau llawdriniaeth is. Roedd yna hefyd budd posibl o ran cost oherwydd newid yn y gost o lawfeddygaeth frys i ddefnyddio meddyginiaethau biolegol.

Gweler yr adroddiad gwerthuso gwasanaeth IBD yma.