Crëwyd y Fframwaith Cymhwysedd Ymarferwyr Gofal Sylfaenol Brys Cymru Gyfan i wella gweithio amlddisgyblaethol, yn unol â'r Cynllun Gweithlu Strategol ar gyfer Gofal Sylfaenol (2025-2030). Prif amcan y fframwaith yw cryfhau gwasanaethau Gofal Sylfaenol Brys (UPC) trwy gefnogi dysgu a datblygu gweithlu’r UPC. Mae wedi'i gynllunio i wella dysgu proffesiynol, meithrin sgiliau clinigol, a sicrhau bod safonau cymhwysedd yn gyson ar draws timau amlddisgyblaethol, yn enwedig mewn canolfannau gofal sylfaenol brys a gwasanaethau y tu allan i oriau. Mae'r fframwaith yn cynnig ffordd strwythuredig i unigolion gasglu tystiolaeth seiliedig ar waith i ddangos eu lefel o ymarfer a chynnydd ar hyd llwybrau gyrfa diffiniedig.
Dechreuodd y garfan beilot gyntaf o ymarferwyr ar gyfer y fframwaith cymhwysedd eu rhaglen yn gynnar yn 2025. Ariennir y prosiect cyfan gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru.
Comisiynwyd CEDAR i gynnal gwerthusiad gwasanaeth o'r rhaglen Fframwaith Cymhwysedd Ymarferwyr Gofal Sylfaenol Brys. Mae'r gwerthusiad hwn yn rhan o adolygiad ehangach Cymru Gyfan o'r prosiect peilot a bydd yn asesu effeithiolrwydd y fframwaith, yn nodi meysydd i'w gwella, ac yn ymchwilio i fanteision ychwanegol ar gyfer gwasanaethau gofal brys. Bydd y canfyddiadau yn helpu llywio gweithrediad cenedlaethol y fframwaith yn y dyfodol.
Prif amcanion y gwerthusiad yw:
Er mwyn cyflawni'r amcanion hyn, mae CEDAR yn casglu data sylfaenol gan ddau grŵp: cyfranogwyr y cwrs (hyfforddeion) a'u goruchwylwyr / aseswyr. Mae casglu data yn cynnwys arolwg ar-lein a anfonir ar ddau bwynt allweddol: ar y waelodlin yn fuan ar ôl i'r cwrs ddechrau, ac eto ar ôl cwblhau'r cwrs tua blwyddyn yn ddiweddarach. Mae cyfranogwyr o'r ddau grŵp hefyd yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn cyfweliadau un-i-un gydag ymchwilydd CEDAR i rannu eu profiadau. Disgwylir i'r gwerthusiad redeg o fis Mawrth 2025 i Wanwyn 2026.
Am unrhyw gwestiynau sy'n ymwneud â gwerthusiad CEDAR, cysylltwch ag arweinydd y prosiect yn CEDAR, yr Uwch Ymchwilydd, Michael Beddard (michael.beddard@wales.nhs.uk)