Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi bod yn treialu model newydd o ofal pediatrig a ddarperir mewn tri chlwstwr o bractisau cyffredinol yng Nghaerdydd. Gelwir y model newydd hwn yn Glinig Gofal Integredig Pediatrig, lle cynhelir apwyntiadau cleifion allanol yn y feddygfa yn hytrach nag mewn ysbyty, gyda'r meddyg teulu a'r pediatregydd yn bresennol yn ystod yr apwyntiad. Y gobaith yw y bydd gan blant ganlyniadau iechyd gwell a byddant yn llai gofidus o ganlyniad i fynychu'r apwyntiad. Yn ogystal, bydd yn cynyddu cyfathrebu rhwng gofal sylfaenol ac eilaidd, yn lleihau amseroedd aros, lleihau'r amser i ffwrdd o'r gwaith neu'r ysgol i'r claf ac unrhyw aelodau o'r teulu a chynyddu tebygolrwydd y bydd claf yn cael ei ryddhau yn ôl i ofal sylfaenol.
Gofynnwyd i CEDAR gynnal gwerthusiad Elw Cymdeithasol ar Fuddsoddiad (SROI) i asesu gwerth cymdeithasol y clinig Gofal Integredig Pediatrig. Byddwn yn cynnal cyfweliadau â rhanddeiliaid i ddarganfod sut mae'r gwasanaeth hwn yn effeithio arnynt. Dilynir hyn gan arolygon i fesur a gwerthuso'r canlyniadau a nodwyd.