Cefndir a rôl CEDAR
Mae CEDAR a'r Ganolfan Gwerth mewn Iechyd Cymru (WViHC) yn gwerthuso lansiad gwefan Ein Hiechyd, Ein Gwybodaeth (OHOK) yng Nghymru. Nod y cwrs ar-lein byr hwn yw helpu pobl sy'n meddwl am ddewisiadau mewn gofal iechyd. Mae hynny'n cynnwys cleifion, aelodau o'r teulu, gofalwyr, myfyrwyr gofal iechyd, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, a llunwyr polisi. Mae data arolygon wedi ei gasglu ledled Cymru er mwyn casglu ystod eang o brofiadau defnyddwyr tro cyntaf. Bydd sampl o ymatebwyr yn cael eu gwahodd i fynychu cyfres o Grwpiau Ffocws, wedi'u darparu yn y Gymraeg a'r Saesneg, i ymchwilio ymhellach i'r ffyrdd gorau o annog pobl i wneud eu dewisiadau gofal iechyd eu hunain.