Neidio i'r prif gynnwy

Darpariaeth Gwasanaeth Lwpws yng Nghymru

Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i ddeall profiadau defnyddwyr o wasanaethau lwpws yng Nghymru, ac mae CEDAR yn arwain gwerthusiad annibynnol i helpu deall barn rhanddeiliaid.

Cefndir

Mae lwpws, a elwir hefyd yn “systemic lupus erythematosus”, yn glefyd awto-imiwn nad oes modd ei wella, ac amcangyfrifir ei fod yn effeithio ar tua 2,000 o bobl yng Nghymru. Credir ei fod yn enetig ac mae tua 90% o achosion yn digwydd mewn merched, ac yn fwyaf cyffredin mewn rhai o oedran cael plant.

Mae gan Lywodraeth Cymru ddiddordeb ym mhrofiadau cleifion a barn y gymuned glinigol. Maent yn awyddus i gasglu adborth eang gan randdeiliaid ar wasanaethau presennol i sicrhau bod datblygiad yn y dyfodol yn cefnogi'r rhai sy'n byw gyda lwpws.

Rôl CEDAR

Bydd y gwerthusiad hwn o wasanaethau lwpws yn canolbwyntio ar gasglu adborth gan bobl ledled Cymru sydd wedi cael diagnosis o lwpws, yn ogystal â chan staff clinigol allweddol sy’n ymwneud â rheoli pobl â lwpws. Bydd y dulliau’n cynnwys defnyddio arolygon, cyfweliadau a grwpiau ffocws. Bydd y wybodaeth hon yn helpu Llywodraeth Cymru deall yr hyn sy'n gweithio'n dda, a bydd yn nodi unrhyw welliannau posibl yn y ddarpariaeth bresennol o wasanaethau.

Cymryd rhan

Byddwn yn cysylltu â phobl â lwpws ledled Cymru drwy gydol diwedd 2023 a dechrau 2024 drwy eu timau clinigol i’w gwahodd i gymryd rhan yn y prosiect hwn. Os oes gennych chi lwpws ac yr hoffech chi gymryd rhan, cysylltwch â Michael Beddard (Michael.Beddard@wales.nhs.uk).

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect, gweler y dolenni isod ar gyfer taflenni gwybodaeth i gyfranogwyr yn y Gymraeg: Taflen Wybodaeth i Gyfranogwyr