Cyfrannodd CEDAR at gynlluniau ar gyfer sefydlu canolfannau diagnostig cymunedol yn Ne Cymru. Gwnaethom gynnal adolygiad cyflym o'r manteision posibl sy'n gysylltiedig â gwella mynediad at brofion diagnostig a delweddu, gan ddangos ein canfyddiadau drwy ganolbwyntio ar rai llwybrau clinigol penodol. Gwnaethpwyd cymariaethau â mentrau tebyg mewn mannau eraill, a gwnaethom nodi risgiau a thybiaethau sy'n gysylltiedig â'r ffyrdd newydd o weithio. Defnyddiwyd model rhesymeg i ystyried goblygiadau ehangach newidiadau i’r model darparu gwasanaethau, gan gynnwys yr effaith economaidd ac ariannol bosibl. Roedd ein hadroddiad i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn seiliedig ar dystiolaeth a gyhoeddwyd ar yr effaith y gall aros am ddiagnosis ei chael ar iechyd a lles cleifion.