Mae Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro wedi datblygu ap i’w ddefnyddio gan fenywod beichiog. Mae’r ap mewn cydweithrediad â chwrs 6 wythnos sy’n ceisio dysgu menywod beichiog sut i fwyta’n dda ac i gadw’n iach yn ystod eu beichiogrwydd. Mae dietegwyr y GIG wedi ysgrifennu cynnwys yr ap ac mae'n darparu ymyrraeth ennill pwysau iach strwythuredig i fenywod er mwyn iddynt gyflawni cynnydd pwysau o fewn yr ystod a argymhellir yn ystod beichiogrwydd.
Rôl CEDAR yn y prosiect hwn oedd gwerthuso sut cafodd yr ap ei dderbyn gan fenywod beichiog a'r staff oedd yn ymwneud â'r rhaglen Bwyd Doeth yn ystod Beichiogrwydd. Gwnaed hyn drwy gyfweliadau ac arolygon.