Neidio i'r prif gynnwy

Arolygon Dangosyddion a Adroddir gan Gleifion (PaRIS) ac Arolwg Iechyd y Boblogaeth ar gyfer Cymru

Cefndir

Dan arweiniad Canolfan Gwerth mewn Iechyd Cymru (WViHC), gyda chefnogaeth gan CEDAR, mae Cymru yn un o 19 o wledydd sy'n gweithio gyda'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD) i ddarparu’r Arolygon Dangosyddion a Adroddir gan Gleifion rhyngwladol (PaRIS). Arolwg PaRIS fydd yr arolwg rhyngwladol cyntaf o ganlyniadau iechyd a adroddir gan gleifion a phrofiadau pobl sy'n byw gyda chyflyrau cronig sy'n cael eu trin mewn lleoliadau gofal sylfaenol/symudol. Yn ogystal â chyfrannu at yr arolwg rhyngwladol, cymerwyd sampl ehangach o Gymru, sy'n ffurfio'r Arolwg Iechyd y Boblogaeth.

Rôl CEDAR

Wrth weithio ochr yn ochr â WViHC ac Iechyd a Gofal Digidol Cymru (DHCW), wnaeth CEDAR gyfieithu’r arolwg i’r Gymraeg a dylunio'r strategaeth samplu. Mae CEDAR hefyd wedi bod yn rhan o ddadansoddi a lledaenu dadansoddiad data gan ddefnyddio'r Arolwg Iechyd y Boblogaeth ehangach.

Canfyddiadau

Mae adroddiad blaenllaw OECD wedi’i gyhoeddi yma.

Mae'r data a gasglwyd yn cael ei ddadansoddi gyda sawl allbwn yn cael eu datblygu ar hyn o bryd. Mae’r rhain yn cynnwys:

Gweithredu’r arolwg – Disgrifio gweithrediad prosiect OECD PaRIS yng Nghymru a’r heriau yr oedd angen eu goresgyn i sicrhau llwyddiant. Casglodd Cymru un o'r setiau data mwyaf a mwyaf cynhwysfawr ar draws holl gyfranogwyr PaRIS ac ehangodd gwmpas y casglu data i hwyluso gwelliant pellach mewn gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru. Mae erthygl academaidd sy'n manylu ar y gwaith hwn yn cael ei hadolygu gan gymheiriaid mewn cyfnodolyn academaidd ar hyn o bryd.

Dadansoddi data diabetes – Mewn cleifion diabetig dros 45 oed yng Nghymru, roedd lefelau uwch o hyder i hunanreoli cyflyrau iechyd yn gysylltiedig â lles gwell a llai o debygolrwydd o gael eu derbyn i'r ysbyty ar frys. Ar hyn o bryd dan adolygiad gan gymheiriaid mewn cyfnodolyn academaidd.

Dadansoddi data poen – Asesu'r cysylltiad rhwng lefelau poen hunangyfnodedig a (i) phrofiad o wneud penderfyniadau ar y cyd, (ii) canfyddiad o'r system gofal iechyd, a (iii) llythrennedd iechyd mewn oedolion dros 45 oed yng Nghymru.

Ar hyn o bryd dan adolygiad gan gymheiriaid mewn cyfnodolyn academaidd.