Neidio i'r prif gynnwy

Adnewyddu'r PREMs Cenedlaethol

Cefndir

Mae Mesurau Profiad a Adroddir gan Gleifion neu PREMs yn mesur profiad person o ofal iechyd, ac maent yn ddefnyddiol iawn wrth geisio deall boddhad cleifion. Maent hefyd yn chwarae rôl allweddol wrth gefnogi prosiectau gwella gwasanaethau. Yn 2013, datblygwyd cyfres o PREMs craidd yng Nghymru i safoni casglu data, a ddiweddarwyd yn ddiweddarach yn 2017, gan arwain at set o 11 cwestiwn.

Rôl CEDAR

Er mwyn sicrhau bod y set graidd o PREMs yn parhau i fod yn berthnasol i'r ddarpariaeth gwasanaeth a gwasanaethau gofal iechyd presennol, mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu CEDAR i gynnal 'adnewyddiad' o'r PREM craidd. Mae hyn yn cynnwys dau gam:

  • Cam un: Gwerthuso ac addasu'r PREM presennol mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid allweddol.
  • Cam dau: Casglu data gan ddefnyddio'r PREM wedi'i ddiweddaru i gynnal dilysiad ystadegol.

Yn ystod gam un, cafodd rhanddeiliaid allweddol o bob rhan o Gymru eu nodi gan Lywodraeth Cymru, a’u gwahodd gan CEDAR i gymryd rhan. Cynhaliwyd grwpiau ffocws a chyfweliadau o bell gyda thri deg tri o bobl, gan gynnwys defnyddwyr gwasanaeth, cynrychiolwyr o grwpiau eirioli ac aelodau tîm profiad y claf o bob rhan o Gymru.

Cafwyd trafodaethau manwl ar gwestiynau presennol, gydag awgrymiadau i newid cyflwyniad yr arolwg, trefn y cwestiynau a geiriad. Cafwyd hefyd nifer o awgrymiadau ar gyfer ychwanegiadau at y PREM, megis gwneud yr holiadur yn fwy cynhwysol i ieithoedd amrywiol, gan gynnwys Iaith Arwyddion Prydain.

Adroddiad Dros Dro

Nod cam un o’r adnewyddiad yw:

  • Nodi unrhyw gwestiynau diangen
  • Nodi unrhyw welliannau mewn geiriad / brawddegu
  • Nodi unrhyw feysydd / cwestiynau ychwanegol i'w cynnwys

Gweler yr adroddiad dros dro ar adnewyddu PREMs yma.