Neidio i'r prif gynnwy

Gwerth mewn Iechyd

Gwerth mewn Iechyd

Mae gan CEDAR dîm o ymchwilwyr dan arweiniad Kathleen Withers sy'n ymroddedig i'r Rhaglen Gwerth mewn Iechyd (ViH) Cenedlaethol. Mae Gwerth mewn Iechyd yn rhaglen genedlaethol o waith sy'n ymdrechu i gyflawni dull Gofal Iechyd sy'n Seiliedig ar Werth ledled GIG Cymru i gefnogi egwyddorion Gofal Iechyd Darbodus.

Rôl CEDAR mewn Gwerth mewn Iechyd

Mae CEDAR yn cefnogi'r Ganolfan Gwerth mewn Iechyd Cymru trwy ddarparu gallu dadansoddol a gwerthuso, cynghori ar ddethol, defnyddio a gweinyddu PROMs, a chefnogi cynhyrchu allbynnau ac adroddiadau ar gyfer cyflwyniadau, cynadleddau a chyhoeddiadau. Mae ein rôl yn gofyn i ni gydweithredu ag ystod eang o randdeiliaid gan gynnwys cleifion, clinigwyr, a chynrychiolwyr y Bwrdd Iechyd a Llywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau lleol a chenedlaethol. Mae prif weithgareddau CEDAR i gefnogi’r Ganolfan Gwerth mewn Iechyd Cymru yn cynnwys:

  • Ymgymryd â phob agwedd ar ddadansoddi data, ansawdd data ac adrodd, gan gynnwys:
  • Darparu cyngor ac arweiniad ar ddata pan fo angen, gan gynnwys fel rhan o fenter rhaglen ehangach fel y Storfa Ddata Cenedlaethol ac adolygiad Hysbysiad Newid Safonau Data PROM
  • Glanhau data, cysylltiadau data, strwythurau data, dadansoddi ystadegol a delweddu data;
  • Cefnogi profion derbynioldeb i ddefnyddwyr a darparu cefnogaeth gyffredinol, gan gynnwys dilysu (sgorio, dangosfyrddau, delweddu a gwasanaethau eraill gan gynnwys PROMs, cysylltiadau data).
  • Darparu cyngor ac arweiniad ar bob mater yn ymwneud â thrwyddedau, lle bo angen, i reoli taliadau/adnewyddiadau o bob trwydded genedlaethol bresennol;
  • Ymchwilio i'r PROMs sydd ar gael ar gyfer cyflyrau newydd, canfod, negodi a chytuno ar drwyddedau cenedlaethol newydd;
  • Darparu gwasanaethau cyfieithu, gan gynnwys cyfieithu gwyddonol a dilysu PROMs yn Gymraeg
  • Casglu data ansoddol (e.e. grwpiau ffocws / cyfweliadau)

Yn ogystal â'r prif weithgareddau, mae CEDAR hefyd yn darparu nifer o wasanaethau eraill megis dadansoddi, ymchwilio, gwerthuso a gweithredu ar ran Gwerth mewn Iechyd megis hwyluso ymchwil, cynigion grant, rheoli treialon, a lledaenu gwybodaeth.