Cefndir
Gofynnodd Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gwent i CEDAR werthuso’n annibynnol effaith eu Rhaglen Drawsnewid “Iceberg”, sy’n cyfuno gwaith ysgolion, awdurdodau lleol, gwasanaethau iechyd, a sefydliadau elusennol. Nod y rhaglen yw ailgynllunio’r modd y darperir gwasanaethau i blant, pobl ifanc, a’u teuluoedd, lle mae pryderon am les emosiynol neu iechyd meddwl.
Rôl CEDAR
Mae gwerthusiad CEDAR yn canolbwyntio ar effaith dulliau newydd o weithio ar ddefnyddwyr gwasanaethau, y gweithlu iechyd a gofal, ac ar ddiwylliant sefydliadol. Casglwyd a dadansoddwyd data meintiol o arolygon a mesurau perfformiad ochr yn ochr â data ansoddol a gafwyd trwy grwpiau ffocws, cyfweliadau, a nodiadau maes arsylwi. Gwnaethom hefyd ystyried cynaliadwyedd ariannol y fenter.