Mae CEDAR yn cydweithio â Phrifysgol Fetropolitan Caerdydd a Phrifysgol Abertawe mewn prosiect amlddisgyblaethol a gefnogir gan Crwsibl Cymru. Nod y prosiect yw optimeiddio priodweddau deunyddiau cyfansawdd llifadwy ac archwilio'r heriau wrth integreiddio synwyryddion i sbesimenau cyfansawdd sy'n caniatáu caffael a delweddu data amser real. Mae'r gwaith hwn yn sail i ddatblygiadau yn y dyfodol tuag at alluogi mewnblaniadau biofeddygol clyfar.
Rôl CEDAR yw ymchwilio i sut y gallai mewnblaniadau orthopedig clyfar cael eu cynnwys mewn llwybrau presennol a dyfodol y GIG. Byddwn yn ymchwilio i'r effeithiau posibl o ran canlyniadau cleifion a'r defnydd o adnoddau gofal iechyd.