Fel canolfan ymchwil technoleg gofal iechyd, mae Cedar yn canolbwyntio ar ymchwil a gwerthuso sy'n cynnwys dyfeisiau meddygol a diagnosteg. Mae sgiliau eang tîm Cedar yn golygu ein bod hefyd yn ymgymryd â phrosiectau mewn meysydd eraill. Rydym wedi gweithio gyda'r GIG, sefydliadau academaidd, y sector masnachol, sefydliadau a ariennir yn gyhoeddus, ac elusennau.
Mae ein prosiectau'n rhychwantu arbenigeddau clinigol gan gynnwys llawfeddygaeth, anaestheteg, iachâd clwyfau, cardiofasgwlaidd, gynaecoleg, wroleg, diagnosteg pwynt gofal.